Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 78
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda
rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Atebwyd cwestiynau 5 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r
Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2. |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi dyfodol yr hediadau
rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn? Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweithredwyr rheilffyrdd
ynghylch y posibilrwydd o darfu ar wasanaethau rheilffyrdd oherwydd cyngherddau
Stereophonics a Tom Jones yng Nghaerdydd y penwythnos hwn? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.13 Atebwyd
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi dyfodol yr hediadau rhwymedigaeth
gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn? Atebwyd
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Natasha
Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa
drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweithredwyr rheilffyrdd
ynghylch y posibilrwydd o darfu ar wasanaethau rheilffyrdd oherwydd cyngherddau
Stereophonics a Tom Jones yng Nghaerdydd y penwythnos hwn? |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.37 Gwnaeth
Darren Millar ddatganiad am - 40 mlynedd ers ddiwedd Rhyfel y Falkland (14
Mehefin) Gwnaeth
Cefin Campbell ddatganiad am - Teyrnged i Phil Bennett Gwnaeth
Sam Rowlands ddatganiad am - Wythnos Iechyd Dynion (13-19 Mehefin) |
|
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru NDM8024 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar orlifoedd
stormydd yng Nghymru’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mawrth 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.43 NDM8024 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad
ar orlifoedd stormydd yng Nghymru’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mawrth 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf NDM8025 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Craffu blynyddol ar waith
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ebrill 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.19 NDM8025 Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Craffu
blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth
ddiweddaraf’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ebrill 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Strategaeth hydrogen NDM8027 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) pwysigrwydd datblygu'r
broses o gynhyrchu hydrogen gwyrdd i helpu i ryddhau potensial Cymru o ran ynni
adnewyddadwy i ddatgarboneiddio ynni, helpu i ddisodli tanwydd ffosil a helpu i
ddarparu ateb hirdymor i'r argyfwng costau byw; b) y gall datblygu'r
sector hydrogen helpu i drawsnewid economi gylchol a sylfaenol Cymru yn unol
â'r agenda lleoleiddio. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) lunio strategaeth
hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad o ran
datblygu'r sector newydd hwn; b)
sicrhau bod rheolaeth a pherchnogaeth Cymru o'r sector newydd hwn yn cael eu
rheoli i'r eithaf fel rhan o'i strategaeth. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: darparu
treial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, ac yna treial pentref hydrogen mawr
erbyn 2025, ac o bosibl cynllun peilot tref hydrogen cyn diwedd y degawd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.06 NDM8027 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
pwysigrwydd datblygu'r broses o gynhyrchu hydrogen gwyrdd i helpu i ryddhau
potensial Cymru o ran ynni adnewyddadwy i ddatgarboneiddio ynni, helpu i
ddisodli tanwydd ffosil a helpu i ddarparu ateb hirdymor i'r argyfwng costau
byw; b)
y gall datblygu'r sector hydrogen helpu i drawsnewid economi gylchol a
sylfaenol Cymru yn unol â'r agenda lleoleiddio. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
lunio strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar
flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn; b)
sicrhau bod rheolaeth a pherchnogaeth Cymru o'r sector newydd hwn yn cael eu
rheoli i'r eithaf fel rhan o'i strategaeth. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8026 Rhianon Passmore (Islwyn) Adfywiad diwylliannol
Cymreig ar ôl COVID? Y cynllun ar gyfer cerddoriaeth a mynediad i bawb Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.54 NDM8026 Rhianon Passmore (Islwyn) Adfywiad diwylliannol
Cymreig ar ôl COVID? Y cynllun ar gyfer cerddoriaeth a mynediad i bawb. |