Ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion
Inquiry5
Cytunodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith (“y Pwyllgor”) i wneud
darn byr o waith ar ansawdd dŵr
a gollyngiadau carthion.
Casglu
tystiolaeth:
Ysgrifennodd
(PDF 81KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â charthion
yn gollwng o orlifoedd stormydd ar 18 Tachwedd 2021, ac ymatebodd
(PDF 367KB) y Gweinidog ar 3 Rhagfyr 2021.
Ysgrifennodd
(PDF 87KB) y Cadeirydd i Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 22 Tachwedd 2021,
i ofyn a ydynt yn bwriadu cynnal ymchwiliad i weithfeydd trin carthion yng
Nghymru. Ymatebodd
(PDF 105KB) Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (Saeseng yn unig) ar 10 Rhagfyr
2021.
Er mwyn helpu i
lywio’r gwaith hwn, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda
rhanddeiliaid ddydd Iau 3
Chwefror 2022.
Cafwyd
tystiolaeth ysgrifenedig gan Ofwat,
Hafren
Dyfrdwy (Saesneg yn unig) a Dŵr Cymru.
Adroddiad:
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad ar
orlifoedd stormydd yng
Nghymru ar 15 Mawrth 2022. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 9 Mai 2022. Ym mis Hydref 2022, darparodd
Cyfoeth Naturiol Cymru nodyn briffio (Saesneg yn unig) (PDF 111KB) mewn
perthynas ag argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei Adroddiad ar
orlifoedd stormydd yng Nghymru.
Ymateb gan
randdeiliaid i adroddiad y Pwyllgor:
Ymateb
(PDF 131KB) gan Hafren Dyfrdwy mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor yn ei
adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru (Saesneg yn unig)
Ymateb
(PDF 198KB) gan Dŵr
Cymru mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor yn ei adroddiad ar orlifoedd
stormydd yng Nghymru (Saesneg yn unig)
Dadl yn y
Cyfarfod Llawn:
Cynhaliwyd dadl
yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mehefin 2022.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2021
Dogfennau