NDM8027 Dadl Plaid Cymru - Strategaeth hydrogen
NDM8027 Dadl Plaid Cymru - Strategaeth hydrogen
NDM8027 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd datblygu'r
broses o gynhyrchu hydrogen gwyrdd i helpu i ryddhau potensial Cymru o ran ynni
adnewyddadwy i ddatgarboneiddio ynni, helpu i ddisodli tanwydd ffosil a helpu i
ddarparu ateb hirdymor i'r argyfwng costau byw;
b) y gall datblygu'r
sector hydrogen helpu i drawsnewid economi gylchol a sylfaenol Cymru yn unol
â'r agenda lleoleiddio.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) lunio strategaeth
hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad o ran
datblygu'r sector newydd hwn;
b)
sicrhau bod rheolaeth a pherchnogaeth Cymru o'r sector newydd hwn yn cael eu
rheoli i'r eithaf fel rhan o'i strategaeth.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
darparu
treial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, ac yna treial pentref hydrogen mawr
erbyn 2025, ac o bosibl cynllun peilot tref hydrogen cyn diwedd y degawd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2022