Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 72
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 18/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid,
gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 4, 5 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.25 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brynu Fferm Gilestone yn
Nhalybont-ar-Wysg? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
fod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei nodi fel gwasanaeth sydd
angen gwelliant sylweddol? Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Huw Irranca-Davies (Ogwr): Pa
asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw oblygiadau i Gymru o'r
cyhoeddiad diweddar gan Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch y bwriad i ddeddfu i
newid telerau protocol Gogledd Iwerddon? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.06 Atebwyd gan Weinidog yr Economi James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg? Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
benderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod adran achosion brys Ysbyty Glan
Clwyd wedi ei nodi fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol? Atebwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y
Cyfansoddiad Huw Irranca-Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw
oblygiadau i Gymru o'r cyhoeddiad diweddar gan Ysgrifennydd Tramor y DU
ynghylch y bwriad i ddeddfu i newid telerau protocol Gogledd Iwerddon? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.52 Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd. Gwnaeth
Jane Dodds ddatganiad am - Wythnos
Gweithredu ar Ddementia. Gwnaeth
Tom Giffard ddatganiad am - Wythnos
Twristiaeth Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru NDM8003 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar bolisïau
morol Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 22
Chwefror 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2022. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.57 NDM8003 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad
ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 22 Chwefror
2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Iechyd menywod NDM8004 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y
diffyg sôn am iechyd menywod – gan gynnwys darpariaeth mamolaeth – yng
nghynllun hirdymor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau
cymdeithasol, 'Cymru Iachach', er gwaethaf y nod a ddatganwyd o fod yn
'lywodraeth ffeministaidd'. 2. Yn nodi bod costau
sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n llwyr ar fenywod
a'r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a
chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau
awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis, a dementia. 3. Yn nodi bod y
Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn
iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, a bod angen
cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) datblygu
Strategaeth Iechyd Menywod pwrpasol i Gymru a ddylai ganolbwyntio ar iechyd
gydol oes menywod; b) darparu
gwasanaethau cyson o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol, sydd
ar gael i breswylwyr ar hyd a lled Cymru; c) buddsoddi mewn
ymchwil o ansawdd uchel i iechyd a thriniaethau menywod; d) buddsoddi mewn
gwell hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru
mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd menywod. Llywodraeth
Cymru: Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod nad yw
iechyd menywod yn cael ei grybwyll yn benodol yng nghynllun hirdymor presennol
Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach'.
Strategaeth lefel uchel yw hon sy'n nodi'r fframwaith a'r egwyddorion allweddol
ar gyfer sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gofal sy'n canolbwyntio ar yr
unigolyn ac, o’r herwydd, nid yw'n canolbwyntio ar grwpiau na chyflyrau
penodol. 2. Yn nodi bod costau
sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n unig ar fenywod
ac ar rai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a
chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau
awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis a dementia. 3. Yn nodi bod y
Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn
iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, sy’n golygu bod
angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt. 4. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Datganiad Ansawdd a chynllun i’r GIG
yn yr haf gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel ar
draws holl feysydd iechyd menywod. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.40 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8004 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y diffyg sôn
am iechyd menywod – gan gynnwys darpariaeth mamolaeth – yng nghynllun hirdymor
presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru
Iachach', er gwaethaf y nod a ddatganwyd o fod yn 'lywodraeth ffeministaidd'. 2. Yn nodi bod costau sylweddol
yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n llwyr ar fenywod a'r rhai a
bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a chlefydau
sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau awtoimiwnedd a
chardiofasgwlaidd, osteoporosis, a dementia. 3. Yn nodi bod y Swyddfa
Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn iechyd da
na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, a bod angen cymorth
cymdeithasol ac ariannol arnynt. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) datblygu Strategaeth Iechyd
Menywod pwrpasol i Gymru a ddylai ganolbwyntio ar iechyd gydol oes menywod; b) darparu gwasanaethau cyson o
ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol, sydd ar gael i breswylwyr
ar hyd a lled Cymru; c) buddsoddi mewn ymchwil o
ansawdd uchel i iechyd a thriniaethau menywod; d) buddsoddi mewn gwell
hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru mewn
meysydd sy'n ymwneud ag iechyd menywod. Llywodraeth
Cymru: Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod nad yw
iechyd menywod yn cael ei grybwyll yn benodol yng nghynllun hirdymor presennol
Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach'.
Strategaeth lefel uchel yw hon sy'n nodi'r fframwaith a'r egwyddorion allweddol
ar gyfer sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gofal sy'n canolbwyntio ar yr
unigolyn ac, o’r herwydd, nid yw'n canolbwyntio ar grwpiau na chyflyrau
penodol. 2. Yn nodi bod costau
sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n unig ar fenywod
ac ar rai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a
chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau
awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis a dementia. 3. Yn nodi bod y
Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn
iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, sy’n golygu bod
angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt. 4.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Datganiad Ansawdd a
chynllun i’r GIG yn yr haf gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyson o
ansawdd uchel ar draws holl feysydd iechyd menywod. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi effaith y
pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. 2. Yn gresynu bod amseroedd
aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un
o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd
meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio. 3. Yn mynegi ei
phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o
dan adran 136. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cynnal adolygiad
brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed; b) sicrhau bod
gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac c)
ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi effaith y
pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc. 2. Yn cydnabod effaith
y pandemig ar amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r
Glasoed (CAMHS). 3. Yn croesawu ffocws
Llywodraeth Cymru ar helpu gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith
parhaus gyda phartneriaid i atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb
amlasiantaeth, priodol. 4. Yn nodi adolygiad
Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir
ei adroddiad erbyn diwedd 2022. 5. Yn croesawu’r
gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a
phobl ifanc ledled Cymru. 6. Yn nodi
ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar
Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, gyda
rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb Uned Anhwylderau
Bwyta ar gyfer Cymru. [Os derbynnir
gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl
ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn
cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau
ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.45 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi effaith y pandemig
COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. 2. Yn gresynu bod amseroedd
aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un
o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd
meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio. 3. Yn mynegi ei phryder
ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran
136. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd
gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed; b) sicrhau bod gwasanaeth
argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac c) ystyried dichonoldeb agor
uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles
emosiynol plant a phobl ifanc. 2. Yn cydnabod effaith y pandemig ar amseroedd aros ar
gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). 3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar helpu
gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith parhaus gyda phartneriaid i
atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb amlasiantaeth, priodol. 4. Yn nodi adolygiad Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a
gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir ei adroddiad erbyn diwedd 2022. 5. Yn croesawu’r gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2
ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a phobl ifanc ledled Cymru. 6. Yn nodi ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau
Iechyd Arbenigol Cymru ar Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar
gyfer Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb
Uned Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol
â hynny: Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu
cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd
meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio,
ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi effaith y pandemig
COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. 2. Yn gresynu bod amseroedd
aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un
o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd
meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio. 3. Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu
cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd
meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio,
ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan. 4. Yn mynegi ei phryder
ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran
136. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cynnal adolygiad brys o
hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed; b) sicrhau bod gwasanaeth
argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac c) ystyried dichonoldeb agor
uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.40 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.43 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8002 Gareth Davies (Dyffryn
Clwyd) Gwella
mynediad at ofal iechyd Cofnodion: |