NDM8004 Dadl Plaid Cymru - Iechyd menywod
NDM8004 Dadl Plaid Cymru - Iechyd menywod
NDM8004 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y
diffyg sôn am iechyd menywod – gan gynnwys darpariaeth mamolaeth – yng
nghynllun hirdymor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau
cymdeithasol, 'Cymru Iachach', er gwaethaf y nod a ddatganwyd o fod yn
'lywodraeth ffeministaidd'.
2. Yn nodi bod costau
sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n llwyr ar fenywod
a'r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a
chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau
awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis, a dementia.
3. Yn nodi bod y
Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn
iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, a bod angen
cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu
Strategaeth Iechyd Menywod pwrpasol i Gymru a ddylai ganolbwyntio ar iechyd
gydol oes menywod;
b) darparu
gwasanaethau cyson o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol, sydd
ar gael i breswylwyr ar hyd a lled Cymru;
c) buddsoddi mewn
ymchwil o ansawdd uchel i iechyd a thriniaethau menywod;
d) buddsoddi mewn
gwell hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru
mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd menywod.
Llywodraeth Cymru: Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal
Cymdeithasol
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod nad yw
iechyd menywod yn cael ei grybwyll yn benodol yng nghynllun hirdymor presennol
Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach'.
Strategaeth lefel uchel yw hon sy'n nodi'r fframwaith a'r egwyddorion allweddol
ar gyfer sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gofal sy'n canolbwyntio ar yr
unigolyn ac, o’r herwydd, nid yw'n canolbwyntio ar grwpiau na chyflyrau
penodol.
2. Yn nodi bod costau
sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n unig ar fenywod
ac ar rai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a
chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau
awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis a dementia.
3. Yn nodi bod y
Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn
iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, sy’n golygu bod
angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt.
4. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Datganiad Ansawdd a chynllun i’r GIG
yn yr haf gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel ar
draws holl feysydd iechyd menywod.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2022