Rheoli’r amgylchedd morol
Rheoli’r amgylchedd morol
Inquiry4
Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a
Seilwaith (“y Pwyllgor”) i wneud darn byr o waith ar reoli’r amgylchedd
morol.
Bu’r Pwyllgor yn
ystyried:
- Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig;
- potensial carbon glas a datblygiadau yng
Nghymru;
- ymgysylltu cyfredol rhanddeiliaid â
Llywodraeth Cymru;
- datblygu ynni morol yng Nghymru, gan gynnwys
unrhyw gyfyngiadau cyfredol ar ganiatâd;
- cynllunio morol ac a yw ardaloedd adnoddau
strategol arfaethedig Llywodraeth Cymru yn ddigonol; a
- pherthynas â phrosesau trwyddedu Ystâd y
Goron.
Casglu
tystiolaeth:
Er mwyn helpu i
lywio’r gwaith hwn, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Newid Hinsawdd (PDF 112KB) i gael y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed tuag at weithredu argymhellion a wnaed gan
Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Bumed Senedd yn ei
adroddiad, Cynnydd
Llywodraeth Cymru o ran rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (Tachwedd
2019). Ymatebodd
(PDF 249KB) y Gweinidog ar 1 Rhagfyr 2021.
Defnyddiwyd
tystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd mewn ymateb i ymgynghoriad
diweddar y Pwyllgor ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd i lywio’r
gwaith hwn ymhellach, yn ogystal â thystiolaeth
ychwanegol a gyflwynwyd gan randdeiliaid.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ddydd
Iau 9 Rhagfyr.
Adroddiad:
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei Adroddiad
ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru (PDF 1.57MB) ar 22 Chwefror 2022.
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru
(PDF 306KB) ar 4 Ebrill 2022.
Cynhaliwyd dadl
yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Mai 2022.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/11/2021
Papurau cefndir
Ymgynghoriadau
- Rheoli’r amgylchedd morol (Wedi ei gyflawni)