Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a
Seilwaith (“y Pwyllgor”) gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac
i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn
cynnwys polisi newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni, cynllunio,
trafnidiaeth, a chysylltedd.
Ymgynghorodd y
Pwyllgor â rhanddeiliaid dros yr haf er mwyn helpu i lywio penderfyniadau'r
Pwyllgor ar beth ddylai ei brif flaenoriaethau fod yn ystod y Chweched Senedd
(2021-2026).
Yn benodol, roedd
gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn clywed eich barn am:
·
flaenoriaethau'r
Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog ar gyfer y 12-18 mis nesaf. Yn benodol, pa
rai o'r blaenoriaethau hyn y dylai'r Pwyllgor fod yn canolbwyntio arnynt dros y
flwyddyn neu ddwy nesaf; ac
·
unrhyw
bwnc arall y credwch y dylid ei flaenoriaethu dros y 12-18 mis nesaf a pham
eich bod yn credu y dylai'r pwnc a awgrymir gennych fod yn flaenoriaeth i'r
Pwyllgor.
Daeth yr
ymgynghoriad i ben ar 10 Medi 2021. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd y Pwyllgor grynodeb
o'r dystiolaeth a gafwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'r holl ymatebion
ar gael ar dudalen
yr ymgynghoriad.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
ei adroddiad: Blaenoriaethau
ar gyfer y
Chweched
Senedd ar
10 Ionawr 2022.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/07/2021
Ymgynghoriadau