Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 64 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd y cwestiynau gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ran y Gweinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.20

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Cwestiwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi datgan rhybudd du neithiwr?

Cwestiwn i Weinidog yr Economi

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad fod Orthios wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac effaith hynny ar y 120 o swyddi yn lleol?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi datgan rhybudd du neithiwr?

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad fod Orthios wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac effaith hynny ar y 120 o swyddi yn lleol?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad am Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, sy’n digwydd rhwng 28 Mawrth a 3 Ebrill.

Gwnaeth Hefin David  ddatganiad am Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2022 (a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf), yn dathlu llwyddiannau prentisiaid ym meysydd pynciau STEM gan gynnwys y rhai sydd wedi astudio mewn colegau addysg bellach gan gynnwys Coleg y Cymoedd sydd â champws mawr yn etholaeth yr Aelod.

Gwnaeth Buffy Williams ddatganiad am - Cronfa Forget Me Not Rhian Griffiths.

Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 15.36

NNDM7978  Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

1.       Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru);

2.       Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a

3.       Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio

NDM7970 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Gwarchod y dyfodol: y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’, a osodwyd ar 28 Ionawr 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mawrth 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.37

NDM7970 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Gwarchod y dyfodol: y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’, a osodwyd ar 28 Ionawr 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mawrth 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cefnogi fferyllwyr

NDM7971 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae fferyllwyr wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, yn ogystal â'u rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd

2. Yn croesawu'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol Cenedlaethol newydd sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2022.

3. Yn pryderu am ganlyniadau Arolwg Lles Gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, sy'n dangos bod naw o bob 10 ymatebydd mewn perygl mawr o gael eu gorweithio a bod un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lleihau biwrocratiaeth ar frys drwy gyflwyno e-bresgripsiynau a darparu mynediad at gofnodion meddygol;

b) sicrhau amser dysgu pwrpasol wedi'i ddiogelu o fewn oriau gwaith ar gyfer lles ac astudio

c) buddsoddi yn y gweithlu fferyllol i hyfforddi mwy o staff fferylliaeth ac uwchsgilio staff presennol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

NDM7971 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae fferyllwyr wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, yn ogystal â'u rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd. 

2. Yn croesawu'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol Cenedlaethol newydd sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2022.

3. Yn pryderu am ganlyniadau Arolwg Lles Gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, sy'n dangos bod naw o bob 10 ymatebydd mewn perygl mawr o gael eu gorweithio a bod un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lleihau biwrocratiaeth ar frys drwy gyflwyno e-bresgripsiynau a darparu mynediad at gofnodion meddygol;

b) sicrhau amser dysgu pwrpasol wedi'i ddiogelu o fewn oriau gwaith ar gyfer lles ac astudio; 

c) buddsoddi yn y gweithlu fferyllol i hyfforddi mwy o staff fferylliaeth ac uwchsgilio staff presennol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Tomenni risg uchel

NDM7972 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:

a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;

b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;

c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;

d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod diogelwch tomenni glo yn gymhwysedd datganoledig.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi gwybodaeth am union leoliadau tomenni risg uchel;

b) gosod systemau rhybuddio cynnar ar gyfer tomenni risg uchel, lle bo hynny'n bosibl;

c) creu awdurdod goruchwylio tomenni glo newydd i sefydlu cyfundrefn ddiogelwch newydd, cynnal asesiadau risg a chynlluniau rheoli tomenni;

d) ffurfioli cytundebau rhwng perchnogion, defnyddwyr tir a'r awdurdod goruchwylio tomenni glo i weithredu mewn argyfwng.

Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7972 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:

a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;

b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;

c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;

d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod diogelwch tomenni glo yn gymhwysedd datganoledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi gwybodaeth am union leoliadau tomenni risg uchel;

b) gosod systemau rhybuddio cynnar ar gyfer tomenni risg uchel, lle bo hynny'n bosibl;

c) creu awdurdod goruchwylio tomenni glo newydd i sefydlu cyfundrefn ddiogelwch newydd, cynnal asesiadau risg a chynlluniau rheoli tomenni;

d) ffurfioli cytundebau rhwng perchnogion, defnyddwyr tir a'r awdurdod goruchwylio tomenni glo i weithredu mewn argyfwng.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7972 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:

a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;

b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;

c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;

d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.12 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.14

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM7969 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.19