NDM7971 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cefnogi fferyllwyr

NDM7971 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cefnogi fferyllwyr

NDM7971 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

 

1. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae fferyllwyr wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, yn ogystal â'u rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd.

 

2. Yn croesawu'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol Cenedlaethol newydd sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2022.

 

3. Yn pryderu am ganlyniadau Arolwg Lles Gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, sy'n dangos bod naw o bob 10 ymatebydd mewn perygl mawr o gael eu gorweithio a bod un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) lleihau biwrocratiaeth ar frys drwy gyflwyno e-bresgripsiynau a darparu mynediad at gofnodion meddygol;

b) sicrhau amser dysgu pwrpasol wedi'i ddiogelu o fewn oriau gwaith ar gyfer lles ac astudio;

c) buddsoddi yn y gweithlu fferyllol i hyfforddi mwy o staff fferylliaeth ac uwchsgilio staff presennol.

Math o fusnes:

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/08/2024