NDM7972 Dadl Plaid Cymru - Tomenni risg uchel

NDM7972 Dadl Plaid Cymru - Tomenni risg uchel

NDM7972 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

 

1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:

 

a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;

b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;

c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;

d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.

Math o fusnes:

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/08/2024