Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 63 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(30 munud)

1.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.58

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Am 14.23, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 5 munud.

(0 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 - TYNNWYD YN ÔL

(0 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau - TYNNWYD YN ÔL

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i ffoaduriaid Wcráin

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Ardrethi Annomestig

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.41

(45 munud)

7.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Tomenni Glo

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.12       

(30 munud)

8.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: diweddariad blynyddol ar gynnydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.43

(15 munud)

9.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022

NDM7966 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.12

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 17.15

NNDM7977 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7975 a NNDM7976 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10.

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022

NDM7967 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol

Cofnodion:

Cynigiodd y Llywydd fod eitemau 10, 11 a 12 yn cael eu trafod gyda’i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân, nid oedd gwrthwynebiad.

Dechreuodd yr eitem am 17.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7967 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

13

50

Derbyniwyd y cynnig.

11.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022

NNDM7975 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2022.

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.16

NNDM7975 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022

NNDM7976 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

2. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2022.

Dogfen Ategol
Adroddiad y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7976 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2022.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd y cynnig.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Dechreuodd yr eitem am 17.41

NNDM7974 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) i ganiatáu i NNDM7973 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 29 Mawrth 2022.

(30 munud)

13.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

NNDM7973 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Adeiladau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Gorffennaf 2021 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021, 20 Ionawr 2022, 22 Chwefror 2022 a 25 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Diogelwch Adeiladau (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai  (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7973 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Adeiladau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Gorffennaf 2021 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 202120 Ionawr 202222 Chwefror 2022 a 25 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Diogelwch Adeiladau (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

14.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

NDM7968 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Etholiadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2021 a 22 Mawrth 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Etholiadau

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.22

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7968 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Etholiadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2021 a 22 Mawrth 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Etholiadau

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

12

50

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.49 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

15.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.52

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: