Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 44(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 12/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir,
gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Ar ran yr Aelodau, dymunodd y Llywydd adferiad buan i Seth Burke, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a fu yn yr ysbyty dros y Nadolig, yn gwella o COVID-19. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.31 Gofynnwyd
cwestiynau 1-6, 8 a 9. Atebwyd cwestiynau 1 a 9 gan y Dirprwy Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.28 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.22 Gofynnwyd
y cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.26 Gwnaeth
Mick Antoniw ddatganiad i dalu teyrnged i Hanef Bhamjee OBE, yr ymgyrchydd
gwrth-apartheid o Gaerdydd. Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad i dalu teyrnged i Ron Jones, y pencampwr chwaraeon o
Gwmaman. Gwnaeth
Sioned Williamsddatganiad i dalu teyrnged i Mike Jones, yr artist o Bontardawe. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.32 NDM7885 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sioned Williams (Plaid Cymru) yn aelod
o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Siân Gwenllian (Plaid Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig NDM7879
Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Dyled a'r
pandemig, a osodwyd ar
15 Tachwedd 2021. Dogfen
ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.32 NDM7879
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Dyled a’r
Pandemig, a osodwyd
ar 15 Tachwedd 2021. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Anghydraddoldebau iechyd NDM7877
Siân Gwenllian
(Arfon) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. 2. Yn
nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi
cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled
Cymru. 3.
Yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag
anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Lesley Griffiths
(Wrecsam) Dileu
popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn
gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol. Yn
cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar
draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r
afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.25 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7877 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r anghydraddoldebau
iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. 2. Yn nodi ymhellach,
oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith
anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. 3. Yn galw am strategaeth a
chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig.
Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb
iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol. Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn
y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u
cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7877 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r anghydraddoldebau
iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. 2. Yn nodi ymhellach,
oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith
anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. 3. Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi
anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a
thrawslywodraethol. 4. Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir
yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd
wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.29 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.32 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7878
Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Pobl
Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.36 NDM7878 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Pobl Fyddar Cymru:
Anghydraddoldeb Cudd |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |