NDM7877 Dadl Plaid Cymru
NDM7877 Dadl Plaid Cymru
NDM7877
Siân Gwenllian
(Arfon)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.
2. Yn
nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi
cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled
Cymru.
3.
Yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag
anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1. Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn
gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.
Yn
cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar
draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r
afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2022