Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 39(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda
rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4–6 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.24 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa
adnoddau a chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i awdurdodau lleol
ac asiantaethau statudol eraill i nodi pryderon posibl ynghylch diogelu plant,
yn dilyn marwolaeth Arthur Labinjo-Hughes yn Solihull? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 Atebwyd
gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru): Pa adnoddau a chanllawiau y mae Llywodraeth
Cymru'n eu darparu i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill i nodi
pryderon posibl ynghylch diogelu plant, yn dilyn marwolaeth Arthur
Labinjo-Hughes yn Solihull? |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.24 Gwnaeth
Mabon ap Gwynfor ddatganiad ar lwyddiant Tŷ Doctor, meddygfa Nefyn, ar ei
ymdrechion wrth roi’r brechlyn. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.26 cafodd y cyfarfod ei atal dros
dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth NDM7860 Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y
Senedd: Yn nodi’r ddeiseb
‘P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd
sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth’ a gasglodd 10,553 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.33 NDM7860 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag
colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth’ a gasglodd 10,553 o
lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Gwasanaethau iechyd meddwl NDM7861 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi
canfyddiadau adroddiad Holden ar fethiannau yn uned Hergest yn Ysbyty
Gwynedd. 2. Yn gresynu at: a) y ffaith ei bod
wedi cymryd bron i wyth mlynedd a chyfarwyddyd gan y comisiynydd gwybodaeth i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi'r adroddiad; b) yr oedi rhwng
cyhoeddi'r adroddiad a gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn
mesurau arbennig; c) methiant y bwrdd
iechyd a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r holl faterion a nodwyd yn yr
adroddiad; d) diffyg atebolrwydd
am berfformiad gwael gwasanaethau iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru; e) effaith ddinistriol
y methiannau hyn ar staff, cleifion a'u hanwyliaid. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) ymddiheuro i staff,
cleifion a theuluoedd y rhai yr effeithiodd y methiannau yn uned Hergest
yn andwyol arnynt; b) ei gwneud yn
ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau fel mater o drefn ac mewn modd
amserol yn y dyfodol; c) cyflawni
gwelliannau radical yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl yng
Ngogledd Cymru; d) cynnal adolygiad
sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyda chleifion, teuluoedd,
gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill; e) cyhoeddi gwybodaeth
ystyrlon am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, gan
gynnwys amseroedd aros ar gyfer asesiadau iechyd meddwl a thriniaeth, fel
therapïau siarad; f) sefydlu rhwydwaith
o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn 24 awr ar gyfer pobl sy'n profi
argyfwng iechyd meddwl; g) gweithio ar sail
drawsbleidiol i gyflawni Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. Adroddiad
Holden (Saesneg
yn unig) Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1. Lesley Griffiths
(Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2. Yn nodi’r cynnydd a
wnaed i wella ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr ac i’w gwneud yn fwy diogel, ers cyhoeddi argymhellion Holden
yn 2015. 3. Yn cydnabod yr
heriau mawr sy’n parhau yn y gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r gwelliannau sydd eu hangen i fynd i’r afael â
nhw. Adroddiad
Holden 2014 (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7861 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi canfyddiadau
adroddiad Holden ar fethiannau yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd. 2. Yn gresynu at: a) y ffaith ei bod wedi cymryd
bron i wyth mlynedd a chyfarwyddyd gan y comisiynydd gwybodaeth i Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi'r adroddiad; b) yr oedi rhwng cyhoeddi'r
adroddiad a gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig; c) methiant y bwrdd iechyd a
Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad; d) diffyg atebolrwydd am
berfformiad gwael gwasanaethau iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru; e) effaith ddinistriol y
methiannau hyn ar staff, cleifion a'u hanwyliaid. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) ymddiheuro i staff, cleifion
a theuluoedd y rhai yr effeithiodd y methiannau yn uned Hergest yn andwyol
arnynt; b) ei gwneud yn ofynnol i
bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau fel mater o drefn ac mewn modd amserol yn
y dyfodol; c) cyflawni gwelliannau radical
yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru; d) cynnal adolygiad sylfaenol o
wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyda chleifion, teuluoedd, gweithwyr
proffesiynol a rhanddeiliaid eraill; e) cyhoeddi gwybodaeth ystyrlon
am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, gan gynnwys
amseroedd aros ar gyfer asesiadau iechyd meddwl a thriniaeth, fel
therapïau siarad; f) sefydlu rhwydwaith o
ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn 24 awr ar gyfer pobl sy'n profi argyfwng
iechyd meddwl; g) gweithio ar sail
drawsbleidiol i gyflawni Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. Adroddiad
Holden (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2, Yn nodi’r cynnydd a wnaed i wella ansawdd gwasanaethau
iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i’w gwneud yn fwy
diogel, ers cyhoeddi argymhellion Holden yn 2015. 3. Yn cydnabod yr heriau mawr sy’n parhau yn y
gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r
gwelliannau sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw. Adroddiad
Holden 2014 (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan
fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant
i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Tlodi bwyd NDM7862 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod
y Senedd hon: 1. Yn nodi bod bron i
chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi. 2. Yn nodi ymhellach
yr oedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, ei fod
wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y
sefyllfa hon yn parhau i waethygu. 3. Yn cydnabod
ganlyniadau dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a
bywoliaeth pobl. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch hawl i fwyd, sy'n arbennig o feirniadol o
ystyried yr argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd
yn rhan annatod o sut yr ymdrinnir â thlodi o fewn polisi ar sail
trawslywodraethol. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn credu bod gan bob
person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol. Gwelliant 2. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn cydnabod ymhellach
bod Llywodraeth y DU wedi cynyddu'r cyflog byw ac yn gwario dros £111 biliwn ar
gymorth lles i bobl o oedran gweithio yn 2021/22. Gwelliant 3. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni ei chynllun swyddi
gan gynnwys y rhaglen kickstart, gyda'r nod o greu swyddi llawn amser i
leihau'r risg o dlodi. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.02 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7862 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd hon: 1. Yn nodi bod bron i chwarter
y bobl yng Nghymru mewn tlodi. 2. Yn nodi ymhellach yr oedd y
defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, ei fod wedi dyblu
i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y sefyllfa hon yn
parhau i waethygu. 3. Yn cydnabod ganlyniadau
dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a bywoliaeth pobl. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i
gefnogi'r ymgyrch hawl i fwyd, sy'n arbennig o feirniadol o ystyried yr
argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod
o sut yr ymdrinir â thlodi o fewn polisi ar sail trawslywodraethol.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.12 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.16 |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7859 Rhys
ab Owen (Canol De Cymru) Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.21 NDM7859 Rhys ab Owen (Canol De Cymru) Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd? |
|||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |