P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Craig Shuttleworth, ar ôl casglu cyfanswm o
10,553 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'n anghyfreithlon lladd neu anafu gwiwer goch. Eto i gyd, nid yw coedwig
sy'n eu cynnwys yn cael ei gwarchod a gellir ei thorri i lawr.
Er bod angen trwydded torri coed er mwyn cwympo coetir, ni ellir gwrthod y
trwyddedau hyn hyd yn oed os ydyn nhw’n arwain at golli cynefin a dirywiad ym
mhoblogaeth y wiwerod coch.
Nid oes angen trwydded ar goedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth, ond fe'u
rheolir o dan gynlluniau sy'n para 10 mlynedd neu fwy. Nid oes yn rhaid iddyn
nhw asesu effaith gronnol cwympo coed ar boblogaethau gwiwerod coch o flwyddyn
i flwyddyn.
Mae’n rhaid i hyn newid.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae gwiwerod coch prin yn cael eu bygwth gan gyfraith cwympo o’r 1960au,
sydd wedi dyddio erbyn hyn.
Hyd yn oed mewn coedwigoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac wedi’u rheoli
gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae'r asiantaeth yn clirio cynefin trwy gwympo coed
heb asesu'r effaith ar boblogaethau gwiwerod. Ar Ynys Môn, mae Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi gwario £0 mewn 10 mlynedd ar fonitro gwiwerod coch. Does ganddyn
nhw’r un syniad o effaith torri coed dro ar ôl tro ar boblogaethau, ac maen
nhw’n parhau i gwympo cynefinoedd, ni waeth beth fo’r canlyniadau.
https://www.thenational.wales/news/19304998.expert-raps-nrw-felling-red-squirrel-habitat/
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae mynd i'r afael â datgoedwigo byd-eang yn
hanfodol i atal ein bioamrywiaeth rhag dirywio, ond eto i gyd mae eu rheolydd
coedwigoedd yn dinistrio cynefin coedwigoedd yma, heb asesu'r effaith ar
wiwerod coch.
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56185205.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor
y ddadl gadarnhaol ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, estynnodd longyfarchiadau
i’r deisebydd, a chaeodd y ddeiseb.
Wrth wneud hynny,
cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn i Cyfoeth Naturiol
Cymru fabwysiadu’r dull o warchod gwiwerod coch ar Ynys Môn yn sgil yr esiampl
yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 20/09/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Arfon
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2021