NDM7862 Dadl Plaid Cymru
NDM7862 Siân
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod
y Senedd hon:
1. Yn nodi bod bron i
chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi.
2. Yn nodi ymhellach yr
oedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, ei fod
wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y
sefyllfa hon yn parhau i waethygu.
3. Yn cydnabod
ganlyniadau dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a
bywoliaeth pobl.
4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch hawl i fwyd, sy'n arbennig o feirniadol o
ystyried yr argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd
yn rhan annatod o sut yr ymdrinnir â thlodi o fewn polisi ar sail
trawslywodraethol.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le:
Yn credu bod gan bob
person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol.
Gwelliant 2. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn cydnabod ymhellach
bod Llywodraeth y DU wedi cynyddu'r cyflog byw ac yn gwario dros £111 biliwn ar
gymorth lles i bobl o oedran gweithio yn 2021/22.
Gwelliant 3. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni ei chynllun swyddi
gan gynnwys y rhaglen kickstart, gyda'r nod o greu swyddi llawn amser i
leihau'r risg o dlodi.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2022