Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 33(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 17/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Sut mae
Llywodraeth Cymru yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.04 Atebwyd
gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy) Sut mae Llywodraeth Cymru
yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.14 Gwnaeth
Llyr Gruffydd ddatganiad am - Nodi a dathlu llwyddiant y Cynghorydd
Abdul Khan ar gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – y
person Bangladeshaidd cyntaf yng Nghymru i ddod yn gadeirydd cyngor sir. Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Y cynlluniau i adfer Cofeb Ryfel
Penrhiwceiber i’w hen ogoniant wrth iddi ddathlu 95 mlynedd. Gwnaeth
Rhys ab Owen ddatganiad am - Nodi 100 mlynedd o Gymanfa Ganu Cymry
Llundain Westminster. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad NDM7826 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio
Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22,
fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.26 NDM7826 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad’, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22, fel y nodir yn Atodiad A
adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23 NDM7830 Ken Skates (De
Clwyd) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23,
fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd 2021 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig
Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Dogfennau ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.27 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7830 Ken
Skates (De Clwyd) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn
cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, fel y pennir yn Nhabl 1
o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, a osodwyd gerbron y Senedd
ar 10 Tachwedd 2021 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol
Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Bwyd (Cymru) NDM7813 Peter Fox (Mynwy) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn cytuno y caiff Peter Fox AS gyflwyno Bil i roi effaith
i'r wybodaeth a gynhwysir yn y Memorandwm
Esboniadol a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021 o dan Reol Sefydlog 26.91A. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7813 Peter Fox (Mynwy) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn
cytuno y caiff Peter Fox AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a
gynhwysir yn y Memorandwm
Esboniadol a
gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021 o dan Reol Sefydlog 26.91A. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Cefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig Covid-19 NDM7827 Siân Gwenllian
(Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, i weithredu
fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; b) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r baich uchaf o
ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19; c) ymdrechion staff GIG Cymru i sicrhau bod gan Gymru un
o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus yn fyd-eang. 2. Yn credu, gyda'r sefyllfa a'r profiad arweinyddiaeth
hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth
dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi
rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull byrddau iechyd
Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i nodi a darparu cymorth
hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan reolaeth ar lefel
fyd-eang. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau i
hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a thechnoleg brechlyn yn
cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y
Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant brechlynnau byd-eang a fydd
yn achub bywydau. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi darparu £548
miliwn i ymrwymiad marchnad COVAX, sy'n darparu 1.8 biliwn o frechlynnau i hyd
at 92 o wledydd er mwyn sicrhau mynediad teg byd-eang i frechlynnau COVID-19. Yn cydnabod, fel rhan o Lywyddiaeth G7 y DU, fod
Llywodraeth y DU wedi hyrwyddo mynediad teg i frechlynnau, therapiwteg a
diagnosteg ac wedi sicrhau ymrwymiad AstraZeneca i ddosbarthu ei frechlyn ar
sail ddi-elw. Yn cydnabod bod rhwydwaith Llywodraeth y DU o gynghorwyr
iechyd mewn gwledydd perthnasol yn cefnogi llywodraethau gwledydd hynny i
dderbyn a darparu brechlynnau a bydd yn rhannu 100 miliwn dos ychwanegol erbyn
mis Mehefin 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.46 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7827 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn
ôl y gyfraith, i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o
dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; b) bod gwledydd incwm isel yn
ysgwyddo'r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19; c) ymdrechion staff GIG Cymru i
sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus
yn fyd-eang. 2. Yn credu, gyda'r sefyllfa
a'r profiad arweinyddiaeth hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei
harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd
incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gynnull byrddau iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i
nodi a darparu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan
reolaeth ar lefel fyd-eang. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i
gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a
thechnoleg brechlyn yn cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg
COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant
brechlynnau byd-eang a fydd yn achub bywydau.
Derbyniwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.30 cafodd y
trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod
Pleidleisio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7829 Huw Irranca-Davies
(Ogwr) Cladin wal allanol: unioni pethau pan fyddant yn mynd o
chwith Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 NDM7829 Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Cladin wal allanol:
unioni pethau pan fyddant yn mynd o chwith. |