Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 18/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson, Michelle Brown a Mark Reckless. |
|
(14.00-14.05) |
Papurau i’w nodi |
|
Papur i'w nodi 1 - Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at randdeiliaid ynghylch ymgynghoriad ar eu blaenraglen waith tair blynedd - 7 Mawrth 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papur. |
||
Papur i'w nodi 2 - Gohebiaeth gan Jeremy Miles AC at y Cadeirydd ynghylch rhaglen OS Ymadael â'r UE Cymru - 11 Mawrth 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.2 Nodwyd y papur. |
||
Papur i'w nodi 3 - Cymalau drafft a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i'r Bil Cytundeb Ymadael - 11 Mawrth 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.3 Nodwyd y papur. |
||
Papur i'w nodi 4 - Gohebiaeth gan Eluned Morgan AC at y Cadeirydd ynghylch Bil Masnach y DU: Adroddiad EAAL Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 12 Mawrth 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.4 Nodwyd y papur. |
||
(14.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.05-14.25) |
Monitro trafodaethau'r UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd
yr Aelodau friff gan y Gwasanaeth Ymchwil ar drafodaethau'r UE. |
|
(14.25-14.40) |
Paratoi ar gyfer Brexit - Goblygiadau i Gymru yn deillio o gynllunio 'dim bargen' Llywodraeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd
yr aelodau friff gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y goblygiadau i Gymru yn sgil
gwaith cynllunio Llywodraeth y DU ar gyfer ‘dim cytundeb’. |
|
(14.40-14.50) |
Craffu ar gytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cytunodd
yr Aelodau i adrodd ar y cytundebau canlynol oherwydd materion a nodwyd yn y
cytundebau a allai effeithio ar Gymru: ·
Cytundeb
Masnach rhwng y DU a’r Swistir ·
Cytundeb
masnach Palesteina ·
Cytundeb
masnach Israel 6.2 Trafododd
yr Aelodau’r cytundebau canlynol: ·
Cytundeb
1994 ar Gaffael Llywodraeth ·
Cytundeb
Diwygiedig ar Gaffael y Llywodraeth ·
Cytundeb
cyd-gydnabyddiaeth rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ·
Cytundeb
rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU ar gyd-gydnabod tystysgrifau cydymffurfio ar
gyfer offer morol |
|
(14.50-15.00) |
Monitro sybsidiaredd: Diwygio'r Rheolau Sefydlog Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd
yr Aelodau i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i awgrymu ei fod yn ystyried, cyn
gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r DU ymadael â’r UE, cyflwyno cynigion i: ·
adolygu
Rheolau Sefydlog er mwyn dileu Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11; a ·
diwygio
cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ddileu
is-baragraff (c) (sy'n ymwneud â Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11). |
|
(15.00-15.15) |
Paratoi ar gyfer sesiwn graffu ar waith Prif Weinidog Cymru ar 25 Mawrth 2019 Cofnodion: 8.1 Trafododd
yr Aelodau feysydd sy’n flaenoriaeth i holi yn eu cylch wrth baratoi ar gyfer y
sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru ar 25 Mawrth 2019. |