Y Cytundeb Ymadael: goblygiadau i Gymru

Cefndir

Dechreuodd yr UE a’r DU drafod y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2017.

Ar 14 Rhagfyr 2018, daethpwyd i gytundeb ar delerau y DU yn ymadael ar lefel y trafodwyr.

Cyhoeddwyd testun y Cytundeb ar ymadawiad Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon â'r Undeb Ewropeaidd a’r Gymuned Ynni Atomig Ewropeaidd, fel y'i cymeradwywyd gan arweinwyr mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor Ewropeaidd ar 25 Tachwedd 2018 [Saesneg yn unig], gan Lywodraeth y DU ar 25 Tachwedd 2018.

Cytunodd Cabinet y DU ar y Cytundeb Ymadael drafft ddydd Mercher 14 Tachwedd 2018.

Cymeradwyodd cyfarfod arbennig o’r Cyngor Ewropeaidd y Cytundeb ddydd Sul 25 Tachwedd 2018.

Er nad yw’n rhan ffurfiol o’r broses, cynhaliodd y Senedd bleidlais ar y Cytundeb Ymadael ddydd Mawrth 4 Rhagfyr 2018. Pleidleisiodd y Senedd i wrthod y Cytundeb a’r Datganiad Gwleidyddol.

Pleidleisiodd Senedd y DU i wrthod y Cytundeb a'r Datganiad Gwleidyddol ar 15 Ionawr 2019. Cafodd pleidlais ddilynol ar y Cytundeb Ymadael a'r Datganiad Gwleidyddol ei gwrthod hefyd gan Senedd y DU ar 12 Mawrth 2019.

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Dechreuodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, sef ‘Pwyllgor Brexit’ y Senedd, drafod y goblygiadau i Gymru yn sgil y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ym mis Medi 2016.

Ceisiodd y Pwyllgor sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hamddiffyn drwy’r broses Brexit a gwnaeth sylwadau i drafodwyr y DU a’r UE ar gyfnodau amrywiol yn y broses.

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Cytundeb Ymadael: Goblygiadau i Gymru ddydd Iau 29 Tachwedd 2018.

Ymateb i’r adroddiad

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad ar 7 Ionawr 2019.

Rhagor o ddatblygiadau

Wedi i Senedd y DU wrthod y Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gytundeb Ymadael a Datganiad Gwleidyddol diwygiedig a ystyriwyd gan y Cyngor Ewropeaidd ar 17 Hydref 2019, ac y cytunwyd arno.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar y Cytundeb Ymadael: y goblygiadau i Gymru (Ionawr 2020) ar 20 Ionawr 2020.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/11/2018

Dogfennau