Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/01/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones AC.

 

(09.30 - 11.30)

2.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 8 – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Busnes y Llywodraeth a Chorfforaethol

Bethan Roberts, Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithio

Janine Hale, Prif Swyddog Ymchwil (Economeg Iechyd)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - llythyr gan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi at Gadeirydd y Pwyllgor yn dilyn adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi at Gadeirydd y Pwyllgor yn dilyn adroddiad y Pwyllgor.

 

3.2

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – llythyr gan Age Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor yn dilyn adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Age Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor yn dilyn adroddiad y Pwyllgor.

 

3.3

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – gwybodaeth ychwanegol gan Alcohol Concern Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Alcohol Concern Cymru.

 

3.4

Ymchwiliad i ofal sylfaenol – llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn dilyn adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn dilyn adroddiad y Pwyllgor.

 

3.5

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – llythyr gan y Gymdeithas Alzheimer at Gadeirydd y Pwyllgor yn dilyn adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gymdeithas Alzheimer at Gadeirydd y Pwyllgor yn dilyn adroddiad y Pwyllgor.

 

3.6

Ymchwiliad i recriwtio meddygol – llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor ynghylch Cymhellion Hyfforddi Meddygon Teulu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor ynghylch Cymhellion Hyfforddi Meddygon Teulu.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.40 - 12.25)

5.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – trafod y dystiolaeth a thrafod y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.

5.2 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y gwaith craffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) cyn iddo baratoi ei adroddiad drafft.

 

(12.25 - 12.40)

6.

Atal hunanladdiad – y wybodaeth ddiweddaraf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y cynlluniau ar gyfer ei ymchwiliad i atal hunanladdiad a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i ddod i sesiynau tystiolaeth lafar.

 

(12.40 - 12.50)

7.

Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.