Ymchwiliad i recriwtio meddygol
Inquiry5
Fel rhan o’i raglen waith ar ba mor gynaliadwy yw’r gweithlu iechyd a gofal
cymdeithasol, cytunodd y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i gynnal ymchwiliad
byr yn canolbwyntio’n benodol ar recriwtio staff meddygol. Dilynodd hyn o
ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad
ar y gweithlu meddygon teulu, a chafodd ei lywio hefyd gan ymgynghoriad ac
arolwg y Pwyllgor a gynhaliwyd dros yr haf 2016.
Disgwylir y bydd darnau pellach o waith drwy gydol y Pumed Cynulliad yn
ystyried materion sy'n ymwneud â'r gweithlu iechyd a gofal yn ehangach.
Cylch gorchwyl:
Gofyn am farn tystion ar y canlynol:
- Capasiti'r gweithlu
meddygol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, yng nghyd-destun
newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau a datblygu modelau newydd o ofal.
- Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol.
- Y ffactorau sy'n dylanwadu ar recriwtio a chadw
meddygon, gan gynnwys unrhyw faterion penodol mewn arbenigeddau penodol
neu ardaloedd daearyddol.
- Datblygu a chyflwyno ymgyrchoedd recriwtio meddygol,
gan gynnwys y graddau y mae rhanddeiliaid perthnasol yn cael eu cynnwys, a
dysgu o ymgyrchoedd blaenorol ac arfer da mewn mannau eraill.
- Y graddau y mae prosesau/arferion recriwtio yn
gydgysylltiedig, yn cynnig gwerth am arian ac yn sicrhau gweithlu meddygol
cynaliadwy.
Casglu tystiolaeth
Roedd y Pwyllgor wedi gwahodd
safbwyntiau ar y mater hwn. Mae’r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.
Adroddiad
Adroddiad
ar ymchwiliad i recriwtio meddygol – Mehefin 2017 (PDF 1MB)
Ymateb
Llywodraeth Cymru – Medi 2017 (228KB)
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl
ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Medi 2017.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2016
Dogfennau
- Adroddiadau
- Adroddiad - Mehefin 2017
PDF 1 MB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i recriwtio meddygol (Wedi ei gyflawni)