Ymchwiliad i ofal sylfaenol
Inquiry5
Mae gofal iechyd sylfaenol yn darparu'r pwynt cyswllt
cyntaf yn y system gofal iechyd. Yn y GIG, y brif ffynhonnell o ofal iechyd
sylfaenol yw drwy feddygon teulu.
Roedd ymchwiliad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar rôl
‘clystyrau’, sef grwpiau o feddygon teulu sy’n gweithio gyda gweithwyr gofal ac
iechyd proffesiynol eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol, fel
ffordd o drawsnewid gofal sylfaenol.
Cylch
gorchwyl:
Nod ymchwiliad y Pwyllgor oedd darparu gwell
dealltwriaeth o sut y mae’r model clwstwr yn gweithio yng Nghymru ac ystyriodd:
- Sut y gall rhwydweithiau clwstwr meddygon teulu yng
Nghymru helpu i leihau'r galw ar feddygon teulu ac i ba raddau y gall
clystyrau ddarparu llwybr mwy hygyrch at ofal (gan gynnwys cymorth iechyd
meddwl ym maes gofal sylfaenol).
- Y tîm amlddisgyblaethol sy'n dod i'r amlwg (sut y
mae’r gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal yn perthyn i'r model
clystyrau newydd a sut y gellir mesur eu cyfraniad).
- Yr heriau sy’n wynebu’r gweithlu presennol a’r
gweithlu yn y dyfodol.
- Y cyllid sy’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i
glystyrau er mwyn galluogi practisau meddygon teulu i roi cynnig ar ffyrdd
newydd o weithio; sut y mae arian yn cael ei ddefnyddio i leihau'r pwysau
ar bractisau meddygon teulu, gwella gwasanaethau a’r mynediad sydd ar gael
i gleifion.
- Heriau o ran llwyth gwaith a’r newid i atal sylfaenol
yn y gwasanaethau a ddarperir gan feddygon teulu i wella canlyniadau
iechyd y boblogaeth a thargedu anghydraddoldebau o ran iechyd.
- Aeddfedrwydd clystyrau a’r cynnydd gyda gwaith
clystyrau mewn gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol, gan nodi enghreifftiau o
arfer gorau.
- Arweiniad lleol a chenedlaethol yn cefnogi datblygiad
y rhwydwaith clwstwr; sut y mae'r camau a gymerir yn ategu’r rheini yng
ngweledigaeth 2010 a chynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru, Gosod
y Cyfeiriad.
- Mwy o fanylion am yr agweddau sy’n cael eu gwerthuso,
y cymorth sy’n cael ei ddarparu’n ganolog a'r meini prawf sydd ar waith i
bennu llwyddiant neu fethiant y clystyrau, gan gynnwys sut mae mewnbwn gan
gymunedau lleol yn cael ei ymgorffori yn y gwaith datblygu a phrofi sy'n
cael ei wneud.
Casglu tystiolaeth
Roedd y
Pwyllgor yn gwahodd safbwyntiau ar y mater hwn. Wnaeth yr ymgynghoriad cau
ar 3 Chwefror 2017.
Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.
Adroddiad
Adroddiad
ar ymchwiliad i Ofal Sylfaenol: Clystyrau (PDF 1MB)
Ymateb
Llywodraeth Cymru – Ionawr 2018 (PDF 369KB)
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl ar adroddiad y
Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2018.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2016
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Gofal sylfaenol (Wedi ei gyflawni)