Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd
Inquiry5
Ceir tystiolaeth y gall unigrwydd ac
unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol; trwy atal
unigrwydd ac unigedd, felly, mae'n bosibl y gellir cynorthwyo i leihau'r galw
am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae llawer o bobl hŷn yn byw ar eu pen
eu hunain ac yn dioddef o iechyd gwael, sy'n golygu na allant gymryd rhan mewn
gweithgareddau cymdeithasol heb gymorth, yn arbennig mewn ardaloedd
gwledig. Mae hyn yn golygu y gallant fod
yn unig neu'n ynysig. Nid yw unigrwydd
ac unigedd yr un peth - mae modd profi'r naill heb y llall. Mae angen tystiolaeth ynglŷn ag arferion
da wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, gan nodi'r hyn sy'n gweithio
a'r hyn nad yw'n gweithio a'r ffordd orau o ddefnyddio adnoddau presennol ac
ychwanegol er mwyn cael yr effaith fwyaf.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod
gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys pennu amcanion llesiant. Mae Llywodraeth
Cymru wedi cyhoeddi dangosyddion
llesiant cenedlaethol fel sy'n ofynnol gan adran 10(1) o'r Ddeddf. Ceir 46 dangosydd, ac un ohonynt (30) yw'r
"ganran o'r bobl sy'n unig".
Mae dangosyddion eraill yn ymwneud â materion cysylltiedig megis lles
meddyliol. Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
wedi datgan (30/9/16) ei bod yn
cydnabod bod unigrwydd ac unigedd yn faterion pwysig o ran iechyd y cyhoedd y
mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth trawslywodraethol yn
eu cylch.
Cylch gorchwyl:
Roedd y Pwyllgor
yn ceisio asesu graddfa ac effaith unigrwydd ac unigedd pobl yng Nghymru, yn
enwedig pobl hŷn, a sut y gellir mynd i'r afael â hynny, trwy ystyried:
- y dystiolaeth o raddfa
problemau unigedd ac unigrwydd ac o'r rhesymau drostynt, gan gynnwys
ffactorau fel tai, trafnidiaeth, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau
iechyd a lles;
- effaith unigrwydd ac
unigedd ar bobl hŷn o ran iechyd a lles corfforol a meddyliol, gan
gynnwys a ydynt yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau penodol er enghraifft
pobl â dementia;
- effaith unigrwydd
ac unigedd ar y defnydd o wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd
a gofal cymdeithasol;
- ffyrdd o fynd
i'r afael â phroblemau unigrwydd ac unigedd ymhlith pobl hŷn, gan gynnwys
ymyriadau i fynd i'r afael yn benodol â'r problemau a phrosiectau eraill
sydd ag amcanion ehangach.
Tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio a'r canlyniadau ar gyfer pobl hŷn
o ran iechyd a lles;
- i ba raddau y
gallai mentrau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau
eraill helpu hefyd i fynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer pobl hŷn;
- atebion polisi yng Nghymru ar hyn
o bryd a pha mor gosteffeithiol ydynt, gan gynnwys y rhaglen Heneiddio'n
Dda yng Nghymru. Y dull gwaith a
fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru o ran cynnal seilwaith a chymorth
cymunedol, a defnyddio'r fframwaith deddfwriaethol a grëwyd yn y Pedwerydd
Cynulliad, e.e. Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Casglu tystiolaeth
Wnaeth y Bwyllgor gwahodd
safbwyntiau ar y mater hwn.
Adroddiad
Adroddiad
ar ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – Rhagfyr 2017 (PDF 897KB)
Ymateb
Llywodraeth Cymru – Chwefror 2018 (PDF 211KB)
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2017
Dogfennau
- Gohebiaeth
- Yr amserlen o ran tystiolaeth lafar
PDF 36 KB Gweld fel HTML (2) 24 KB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch strategaeth unigedd ac ynysu cymdeithasol ar gyfer Cymru - 25 Ebrill 2019
PDF 506 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd (Wedi ei gyflawni)