Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. Dirprwyodd Rhianon Passmore AS ar ei rhan. 1.3 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.4 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(13:45-14:30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 Lesley Griffiths
AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr Christianne
Glossop, Swyddfa'r Prif Filfeddyg John Howells,
Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Tim Render,
Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor
yn craffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn
perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22. |
|
(14:40-15:30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 Lesley Griffiths
AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr Christianne
Glossop, Swyddfa'r Prif Filfeddyg John Howells,
Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Tim Render,
Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd Cofnodion: 3.1 Parhaodd y
Pwyllgor i graffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn
perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22. |
|
(15:30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch trefniadau dros dro ar gyfer llywodraethu amgylcheddol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch trefniadau dros dro ar gyfer llywodraethu amgylcheddol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil yr Amgylchedd Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth rhwng Pwyllgor yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir Senedd yr Alban a’r Cadeirydd ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ’r Cyffredin at y Gweinidog Gwladol dros Dai ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio) Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Bil Amaethyddiaeth y DU – Trydydd darlleniad Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth ychwanegol rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cymalau Enghreifftiol ar gyfer Cyfarpar Sefydlog) (Cymru) 2019 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru ynghylch Adolygiad o Wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth mewn perthynas â'r anghydfod sy'n parhau i fynd rhagddo rhwng Nwy Prydain ac Undeb y GMB Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Centrica (Nwy Prydain) ynghylch trafodaethau gydag Undeb y GMB Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
||
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau craffu. |
||
Sesiwn friffio gyfreithiol a thrafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch Bil Amgylchedd y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd yr
Aelodau friff cyfreithiol a thrafodwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ynghylch Bil Amgylchedd y DU. |
||
Trafod llythyr drafft ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y llythyr drafft ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau
Peryglus (Cynllunio), a chytunodd arno. |