Cynllun Masnachu Allyriadau y DU: Fframwaith Cyffredin

Cynllun Masnachu Allyriadau y DU: Fframwaith Cyffredin

Ymgymerodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â gwaith ar Gynllun Masnachu Allyriadau arfaethedig y DU, gan gynnwys deddfwriaeth gysylltiedig a fframwaith anneddfwriaethol.

   

Ar hyn o bryd, mae’r DU yn rhan o Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE, sef y system fasnachu fwyaf yn y byd ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae cynlluniau masnachu allyriadau’n gweithio’n ôl egwyddor ‘capio a masnachu’. Rhoddir cap ar rai allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig â gosodiadau ac awyrennau sy’n rhan o’r cynllun. Bydd allyrwyr sy’n rhan o’r cynllun yn cael neu’n prynu lwfansau sy’n cyfateb i’w hallyriadau eu hunain, a byddant yn  masnachu’r ymhlith ei gilydd yn ôl yr angen. Dros gyfnod, bydd y cap yn gostwng a bydd cyfanswm yr allyriadau’n gostwng hefyd.

 

Ar ddiwedd y cyfnod pontio (ar 31 Rhagfyr 2020), bydd y DU yn gadael Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Mae angen polisi ‘prisio carbon’ arall felly er mwyn lleihau allyriadau’r allyrwyr o’r DU sy’n rhan o Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE ar hyn o bryd.

 

Mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) wedi cytuno i sefydlu un Cynllun Masnachu Allyriadau i’r DU gyfan, a set o reolau cyffredin ar gyfer y rhai a fydd yn rhan o’r cynllun. Bydd unrhyw gynigion i weinyddiaethau wyro oddi wrth y polisi’n cael eu hystyried gan y pedair gweinyddiaeth, gan ddefnyddio proses lywodraethu a fydd wedi’i chynnwys yn y concordat a’r Cytundeb Amlinellol ar gyfer Fframwaith Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

 

Ar 27 Gorffennaf 2020 ysgrifennodd (PDF 221KB) y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gyda nifer o gwestiynau ynghylch datblygu Fframwaith Cyffredin i ddisodli System Masnachu Allyriadau’r UE (EU ETS). Ymatebodd (PDF 481KB) y Gweinidog ar 16 Medi 2020.

 

Ar 1 Hydref 2020 cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda’r Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Deben, Cadeirydd Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, a Hannah Dillon o Zero Carbon Campaign i helpu lywio ei waith.

 

Ar 8 Hydref 2020, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd (PDF 179KB) y Cadeirydd at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn. Ymatebodd (PDF 261KB) y Gweinidog ar 2 Tachwedd 2020.

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi ar y dudalen hon.

 



Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/09/2020

Dogfennau

Papurau cefndir