Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio)

Fframwaith Cyffredin ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio)

Y cefndir

 

Mae polisi Cynllunio o ran Sylweddau Peryglus yn cwmpasu elfennau o Gyfarwyddeb Seveso III (2012/18/UE) sy’n ymwneud â chynllunio defnydd tir, gan gynnwys rheolaeth gynllunio ar bresenoldeb sylweddau peryglus ac ymdrin â chynigion datblygu, ar gyfer sefydliadau peryglus ac yng nghyffiniau sefydliadau peryglus o’r fath.

 

Mae’n llywodraethu lleoliad sefydliadau sy’n cynnwys sylweddau peryglus er mwyn atal damweiniau mawr ac i gyfyngu’r effaith ar fywydau a’r amgylchedd pan fydd damweiniau’n digwydd. Mae’n gosod cyfyngiadau ar faint o sylweddau peryglus y gellir eu storio ar safle ac yn darparu ar gyfer y fframwaith cynllunio sydd ei angen ar gyfer cymeradwyo defnyddio sylweddau o’r fath.

 

Mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig wedi cytuno y dylid dilyn dull cyffredin ar gyfer Cynllunio o ran Sylweddau Peryglus yn sgil ymadawiad y DU â’r UE.

 

Ym mis Hydref 2020, trefnodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fod y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Cynllunio o ran Sylweddau Peryglus ar gael ar gyfer gwaith craffu.

 

Ar 26 Hydref ysgrifennodd (PDF 238KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol gyda nifer o gwestiynau mewn perthynas â'r Fframwaith Drafft Sylweddau Peryglus (Cynllunio). Ymatebodd (PDF 336KB) y Gweinidog) ar 17 Tachwedd 2020 a rhoddodd ymateb pellach (PDF 122KB) ar 18 Rhagfyr 2020.

 

Ar 21 Ionawr 2021 ysgrifennodd (PDF 212KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn nodi barn ac argymhellion y Pwyllgor ar y Fframwaith drafft.

Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/02/2021

Dogfennau