Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22

Rhaid i Gomisiwn y Senedd osod ei gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd i ganiatáu i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar ei chynigion. Ar ôl i’r Pwyllgor gwblhau ei waith craffu, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi cyllideb derfynol, sydd i’w thrafod yn y Cyfarfod Llawn cyn y bleidlais i’w chymeradwyo gan y Senedd cyfan.

 

Gosododd Comisiwn y Senedd ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22 (PDF, 1MB) gerbron y Cynulliad ym mis Medi 2020.

 

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad yn trafod ei waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22 (PDF, 1MB) ym mis Hydref 2020.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/10/2020

Dogfennau