Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 17/09/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Croesawodd y Cadeirydd Laura Anne Jones AS i'r
Pwyllgor, a diolchodd i Janet Finch-Saunders AS am ei gwaith fel aelod o'r
pwyllgor. 1.5 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Nid oedd
dirprwy ar ei ran. |
|
(09.15 - 10.15) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 4 gyda chynrychiolwyr yr Arolygiaeth a'r Rheoleiddiwr Philip Blaker,
Prif Weithredwr – Cymwysterau Cymru Emyr George,
Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio – Cymwysterau Cymru Meilyr Rowlands,
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi – Estyn Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol – Estyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymwysterau Cymru
ac Estyn. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.25 - 10.45) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru
ac Estyn i fynd ar drywydd rhai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(10.45 - 11.45) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 5 gyda chynrychiolwyr sector y blynyddoedd cynnar Dave Goodger,
Prif Swyddog Gweithredol – Blynyddoedd Cynnar Cymru Claire Protheroe,
Rheolwr Cenedlaethol Cymru – y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r
Blynyddoedd Cynnar Cymru Sarah Coates,
Rheolwr Polisi a Phartneriaethau Strategol (Cymru) – y Gymdeithas Genedlaethol
Meithrinfeydd Dydd Eleri Griffiths,
Rheolwr Polisi - Mudiad Meithrin Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Flynyddoedd Cynnar
Cymru, y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar
Cymru, y Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, a
Mudiad Meithrin. |
|
(11.45 - 11.50) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 6.1 Cafodd y papurau eu nodi. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu amser yn y flaenraglen
waith i drafod yr adroddiad ynghylch Addysgu o Bell a Dulliau Addysg Ysgol yng
nghyd-destun Covid-19. |
|
Gwybodaeth ychwanegol gan NUS Cymru yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Mehefin Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Unsain yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Mehefin Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch darpariaethau'r Bil fel y maent yn ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch darpariaethau'r Bil fel y maent yn ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2018-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch Covid-19: Unedau cleifion mewnol gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch goblygiadau ariannol i Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch goblygiadau ariannol i Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Deiseb P-05-972 i ddarparu o leiaf 4 awr y dydd o addysgu byw yn ystod y cyfnod clo COVID i bob plentyn ysgol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn rhoi’r diweddaraf i'r Pwyllgor am bwyntiau gweithredu yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Gorffennaf Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 7 Gorffennaf ynghylch effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 7 Gorffennaf ynghylch effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Lywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 9 Mehefin ynghylch darparu gwasanaethau i gefnogi iechyd corfforol a meddwl plant a phobl ifanc o ystyried effeithiau COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch darpariaeth iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc Dogfennau ategol: |
||
Nodyn gan swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch swyddogaethau'r Corff Llywodraethu mewn perthynas â'r cwricwlwm fel y'u rhoddir gan Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at y Gweinidog Addysg ynghylch arholiadau’r haf Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Suzy Davies AS ynghylch rôl y Gweithgor Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y gwaith dilynol y mae'r Pwyllgor wedi bod yn ei wneud o ran ei ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Prifysgolion Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch gwaith y Pwyllgor ar COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o dan Gofrestr Arbenigwyr COVID-19 Gwasanaeth Ymchwil y Senedd ynghylch Addysgu o Bell a Dulliau Gweithredu Covid-19 o ran Addysg Ysgol, Sofya Lyakhova, Prifysgol Abertawe Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch diwygiadau i drawsnewid y system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 18 Awst ynghylch dyfarnu canlyniadau arholiadau 2020 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 18 Awst ynghylch dyfarnu canlyniadau arholiadau 2020 Dogfennau ategol: |
||
(11.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.50 - 12.00) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. |