Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc ('Cadernid Meddwl') – Gwaith dilynol

Inquiry5

 

Fe wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg waith dilynol ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru.

 

Yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad gwreiddiol, sef Cadernid Meddwl, yn 2018, ymrwymodd y Pwyllgor i gadw llygad ar y ffordd y mae argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu. Isod, amlinellir y gwaith a wnaeth y Pwyllgor yn y cyfnod cyn cyhoeddi'r adroddiad dilynol, sef Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach ym mis Hydref 2020.

 

Llinell amser ers cyhoeddi’r adroddiad Cadernid Meddwl

Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' (PDF 3.32MB). Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 1.262KB) ym mis Mehefin 2018, i lywio'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn a ddilynodd ym mis Gorffennaf 2018.

 

Yn dilyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gofynnwyd am ymateb diwygiedig gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn oherwydd bod yna gonsensws trawsbleidiol yn y Siambr nad oedd ymateb gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn bodloni'r uchelgais a amlinellwyd yn adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn, ym mis Medi 2018, sefydlodd Llywodraeth CymruGrŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion o dan gyd-gadeiryddiaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg. Cytunodd Llywodraeth Cymru hefyd i roi diweddariad (PDF 202KB) ar yr argymhellion erbyn mis Mawrth 2019. Ym mis Chwefror 2019, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu (PDF 76.1KB) i atgoffa Llywodraeth Cymru am y cais am ymateb diwygiedig.

 

Ym mis Mai 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi’r diweddariad y gofynnwyd amdano (PDF 824KB) ynghylch cynnydd mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor. Hefyd, cafwyd diweddariad (PDF 655KB) gan Gadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc.

 

Ym mis Mehefin 2019, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau craffu cyhoeddus i lywio ei waith dilynol:

 

20 Mehefin 2019 – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg.

26 Mehefin 2019 - Cadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc.

 

Ym mis Gorffennaf 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ysgrifennu at y Pwyllgor (PDF 397KB) ynghylch y camau y cytunwyd arnynt yn y sesiwn dystiolaeth lafar.

 

Ym mis Awst 2019, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru (PDF 163KB) yn amlinellu ei gasgliadau a'i argymhellion yn dilyn y sesiynau craffu dilynol. Ym mis Hydref 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i lythyr y Pwyllgor. (PDF 471KB)

 

Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd y Pwyllgor lythyr (PDF 1 MB) gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch dyfodol y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc. Mewn ymateb, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu (PDF 104KB) yn amlinellu ei gamau nesaf.

 

Ym mis Chwefror 2020, ceisiodd y Pwyllgor farn gan randdeiliaid i asesu i ba raddau yr oedd argymhellion ei adroddiad gwreiddiol, sef Cadernid Meddwl, wedi'u rhoi ar waith. Cynhaliwyd gweithdy i randdeiliaid lle rhoddodd rhanddeiliaid sgôr coch, melyn neu wyrdd i’r broses o weithredu'r argymhellion. Hefyd, cyfarfu’r Pwyllgor â rhieni a gofalwyr (PDF 129KB) a chynrychiolwyr Senedd Ieuenctid Cymru. (PDF 143KB)

 

Allbwn Terfynol

Ym mis Hydref 2020, fe wnaeth y Pwyllgor gyhoeddi  ei adroddiad, Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach.

 

Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 119KB) gan y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl IfancCymru ym mis Tachwedd 2020 ac  ymateb (PDF 6MB ) gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020.

 

Roedd yr adroddiad yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/05/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau