Gwella Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc ('Cadernid Meddwl')

Inquiry5

 

Cynhaliodd y  Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad manwl i’r dasg o wella iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Medi 2018. Gellir darllen y cylch gorchwyl gwreiddiol yma (PDF 149KB).

 

Gwnaeth y Pwyllgor waith dilynol ar yr ymchwiliad hwn rhwng mis Medi 2018 a diwedd y Bumed Senedd (tymor y gwanwyn 2021).

 

Adroddiad  

Cadernid Meddwl: Adroddiad ar y newid mawr sydd ei angen o ran cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru(PDF 3,403KB) – 26 Ebrill 2018

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 1,262KB) – 25 Mehefin 2018

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn ac ymatebion pellach gan y Llywodraeth

Cynhaliwyd dadl ar adroddiad y Pwyllgor ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf 2018.

 

Yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gwrthododd y Pwyllgor yr ymateb a gafwyd gan y Llywodraeth ym mis Mehefin 2018, a galwodd ar Weinidogion i ddychwelyd i’r mater gan fabwysiadu dull gweithredu newydd.

 

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol ar Ddull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant ym mis Medi 2018, yn dilyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn a gohebiaeth bellach rhwng y Llywodraeth a'r Pwyllgor:

 

·      Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn dilyn y ddadl yn Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad Cadernid Meddwl (PDF 203KB) – 27 Gorffennaf 2018

 

·      Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (PDF 71KB) – 16 Awst 2018

 

·      Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (PDF 207KB) – 7 Medi 2018

 

·      Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (PDF 195KB) – 7 Medi 2018

 

Casglu tystiolaeth

Yn ogystal â chasglu tystiolaeth lafar a thystiolaeth ysgrifenedig at ddibenion llywio ei ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor y rhaglen o weithgarwch ymgysylltu a ganlyn:

 

·      Ymweliadau – cynhaliodd y Pwyllgor ymweliadau yng ngogledd a de Cymru (PDF 378KB) er mwyn siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc, athrawon ac ymarferwyr iechyd.

·      Arolygon – lansiodd y Pwyllgor arolygon (un arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed, ac un arolwg ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg). Cafwyd dros 2,000 o ymatebion.

Crynodeb o ganlyniadau’r arolwg:

Pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a cholegau (PDF 636KB)

Gweithwyr proffesiynol ym maes addysg (PDF 449KB)

Mae fideo byr ar gael hefyd sy’n crynhoi canlyniadau'r arolwg a rhai o'r themâu allweddol a ddaeth i’r amlwg.

 

·      Digwyddiad bwrdd crwn cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad bwrdd crwn  (PDF 221KB) i gasglu sylwadau a phrofiadau staff rheng flaen sy’n dod i gysylltiad yn rheolaidd â’r rhai sy’n cynnig cymorth emosiynol a chymorth iechyd meddwl mewn ysgolion.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/06/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau