Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai
hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd
Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS, nid oedd
dirprwy ar ei ran. |
|
(09.15 - 10.45) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 - 2020 (i gynnwys materion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg) Meilyr Rowlands,
Prif Arolygydd EM – Estyn Claire Morgan,
Cyfarwyddwr Strategol - Estyn Jassa Scott,
Cyfarwyddwr Strategol – Estyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad
Blynyddol, ac ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19. 2.2 Oherwydd diffyg amser, cwtogwyd y cwestiwn ar
flynyddoedd cynnar, gwahoddwyd Estyn i ddarparu ymateb ysgrifenedig mwy llawn,
pe dymunent. |
|
(11.00 - 12.15) |
Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar addysg gyda chynrychiolwyr o'r undebau llafur. Eithne Hughes,
Director - Cyfarwyddwr - Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru) Laura Doel,
Cyfarwyddwr – Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru Rebecca Williams,
Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi - Undeb Cenedlaethol Athrawon
Cymru (UCAC) Mary van den
Heuvel, Uwch Swyddog Polisi Cymru - Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru Neil Butler,
Swyddog Cenedlaethol Cymru – Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb
yr Athrawesau Rosie Lewis, Trefnydd Rhanbarthol, arweinydd ysgolion, Cymru – UNSAIN Nicola Savage, Trefnydd Rhanbarthol Undeb GMB, Rhanbarth Cymru
a'r De Orllewin Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r undebau llafur. |
|
(12.15) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr Adroddiad Hawliau Plant: y camau nesaf. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gymwysterau Cymru yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2020. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2020. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2020 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddarparu Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y Cyfyngiadau Symud Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch penodi Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i hawliau plant yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr Cymwysterau Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2020 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ei ymddeoliad Dogfennau ategol: |
||
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.15 - 12.25) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 – 2020 a COVID-19: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiynau blaenorol. |
|
(12.25 - 12.30) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trefn Ystyried – cytundeb cyn trafodion Cyfnod 2 Cofnodion: 7.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd yn ysgrifenedig
ar drefniadau ar gyfer trafodion rhithwir Cyfnod 2 a'r Drefn Ystyried ar gyfer
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
(12.30 - 12.45) |
Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 8.1 Bu’r Aelodau'n
trafod y flaenraglen waith. |
|
Addysg Heblaw yn yr Ysgol – trafod yr adroddiad drafft [GOHIRIWYD] |