Hawliau plant yng Nghymru

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad byr i hawliau plant yng Nghymru i adolygu effaith Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

 

Cylch Gorchwyl

Bu’n ystyried:

  • i ba raddau y mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011  wedi dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei dyraniadau ariannol a ph’un a yw wedi cyflawni 'mesurau cyffredinol' y Confensiwn o weithredu;
  • tystiolaeth a yw'r Mesur wedi arwain at ganlyniadau gwell i blant a phobl Ifanc;
  • a yw'r dyletswyddau yn y Mesur wedi'u sefydlu'n effeithiol ar draws polisi a phortffolios cabinet Llywodraeth Cymru;
  • i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrhau bod ei ddyletswyddau o fewn y Mesur yn cael eu cyfleu yng ngwaith y cyrff cyhoeddus y mae’n eu cyllido gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff y GIG;
  • i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ei dyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Confensiwn ymhlith y cyhoedd, gan gynnwys plant a phobl ifanc;
  • sut mae'r ddyletswydd i gael 'sylw dyledus' i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei gweithredu'n ymarferol ac a yw Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn cael eu defnyddio fel adnodd ystyrlon;
  • effeithiolrwydd y Cynllun Hawliau Plant ac adroddiad cydymffurfio diweddaraf Llywodraeth Cymru ac i ba raddau y maent yn dangos tystiolaeth o weithredu digonol ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Mesur yn cael ei weithredu'n llawn;
  • pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb yn strategol i Sylwadau Cloi Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

 

Blog

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd flogiau gyda rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn:

Hawliau plant: mater gwleidyddol pwysig unwaith eto

Coronafeirws: hawliau plant

 

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio ei waith, a gellir gweld manylion y rhain yn y tabl isod. Gwnaeth y Pwyllgor ymgynghori ar y pwnc hwn hefyd. Mae'r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.

 

Grid Tystiolaeth

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.    Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru

Sean O'Neil, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru

Tim Ruscoe, Swyddog Materion Cyhoeddus a Chyfranogiad, Barnardo's Cymru

Dr Simon Hoffman, Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe

16 Hydref 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2.    Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru

Dr Phillip Connor, Ymgynghorydd mewn Haematolegydd Paediatreg, Arweinydd Ymchwil a Datblygu'r Gyfarwyddiaeth, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru

Rhian Croke, Cynghorydd Hawliau Dynol Plant, Hawliau Dynol Cymru

Rhian Thomas Turner, Uwch-reolwr Gweithrediadau, Ysbyty Plant Cymru

16 Hydref 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3.    Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Melissa Wood, Uwch Gydymaith

Hannah Wharf, Prif arferydd

16 Hydref 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

4.    Comisiynydd Plant Cymru

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus

16 Hydref 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

5.    Llywodraeth Cymru

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd – Llywodraeth Cymru

David Pearce, Pennaeth y Gangen Plant – Llywodraeth Cymru

6 Tachwedd 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

6.    Cynrychiolwyr Senedd Ieuenctid Cymru

Betsan Angell Roberts, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Ogledd Caerdydd

Todd Murray, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Ben-y-bont ar Ogwr

Ffion Griffith, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Islwyn

Maisy Evans, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Dorfaen

20 Tachwedd 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

Ymgysylltu â'r cyhoedd

Yn ogystal â chasglu tystiolaeth yn ffurfiol, gofynnodd y Pwyllgor am farn y plant a'r bobl ifanc drwy fentrau ymgysylltu. Gellir gweld crynodeb o'r gweithgareddau isod.

 

Cyfarfod mewn Blwch

Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, datblygodd y Pwyllgor weithgaredd ymgysylltu o’r enw "cyfarfod mewn blwch". (PDF 95.3KB) Pecyn adnoddau oedd hwn sy'n galluogi plant a phobl ifanc i rannu eu safbwyntiau ar hawliau plant; yna, cynhaliwyd arolwg byr er mwyn rhannu'r hyn a ddysgwyd a bwydo i mewn i'r ymchwiliad ehangach. Cynhyrchwyd fideo byr i ymhelaethu am yr adnodd, sut y cafodd ei ddefnyddio ledled Cymru, a'r ffyrdd eraill y mae'r Pwyllgor wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Cyfarfod mewn Blwch – crynodeb ymgysylltu (PDF 234KB)

 

Lleisiau Bach / Little Voices

Gan weithio mewn partneriaeth â Lleisiau Bach / Little Voices, cyfarfu'r Pwyllgor â phlant o ddwy ysgol gynradd i gael dealltwriaeth o sut mae hawliau plant yn eu helpu. Lleisiau Bach – Lleisiau Plant yn Cael eu Clywed (PDF 689KB)

 

Adroddiad

Ar 11 Awst 2020, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF 145MB) ar Hawliau Plant yng Nghymru. Mae fersiwn sy'n addas i blant ar gael (PDF 278KB).

 

Ar 23 Medi 2020 ymatebodd (PDF 703KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.

 

Ar 14 Hydref 2020, ysgrifennodd y Pwyllgor (PDF 207KB) at y rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth lafar i'r ymchwiliad hwn i gasglu eu barn ar ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor, ac unrhyw ddiweddariadau sylweddol sy'n berthnasol i'r adroddiad ers i'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth. Cawsom farn Comisiynydd Plant Cymru (PDF 469KB), Plant yng Nghymru (PDF 121KB), a’r Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc (NACH) yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, a gefnogir gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru.(PDF 566KB)

 

Trafodwyd yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Ionawr 2021.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau