Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS, nid oedd dirprwy ar ei ran.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 - 2020 (i gynnwys materion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg)

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM – Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol - Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol – Estyn

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol, ac ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19.

 

2.2 Oherwydd diffyg amser, cwtogwyd y cwestiwn ar flynyddoedd cynnar, gwahoddwyd Estyn i ddarparu ymateb ysgrifenedig mwy llawn, pe dymunent.

 

 

(11.00 - 12.15)

3.

Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar addysg gyda chynrychiolwyr o'r undebau llafur.

 

Eithne Hughes, Director - Cyfarwyddwr - Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru)

Laura Doel, Cyfarwyddwr – Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru

Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi - Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi Cymru - Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru

Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol Cymru – Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau

Rosie Lewis, Trefnydd Rhanbarthol, arweinydd ysgolion, Cymru – UNSAIN

Nicola Savage, Trefnydd Rhanbarthol Undeb GMB, Rhanbarth Cymru a'r De Orllewin

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r undebau llafur.

 

(12.15)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr Adroddiad Hawliau Plant: y camau nesaf.

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gymwysterau Cymru yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2020.

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2020.

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddarparu Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y Cyfyngiadau Symud

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch penodi Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dogfennau ategol:

4.8

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i hawliau plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4.9

Llythyr gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr Cymwysterau Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2020

Dogfennau ategol:

4.10

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.11

Llythyr gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ei ymddeoliad

Dogfennau ategol:

(12.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.25)

6.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 – 2020 a COVID-19: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

 

(12.25 - 12.30)

7.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trefn Ystyried – cytundeb cyn trafodion Cyfnod 2

Cofnodion:

7.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd yn ysgrifenedig ar drefniadau ar gyfer trafodion rhithwir Cyfnod 2 a'r Drefn Ystyried ar gyfer Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), y tu allan i'r Pwyllgor.

 

(12.30 - 12.45)

8.

Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

8.1 Bu’r Aelodau'n trafod y flaenraglen waith.

 

 

9.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol – trafod yr adroddiad drafft [GOHIRIWYD]