Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/06/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(13.30 - 13.35) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ymateb i Lywodraeth
Cymru ynghylch addasiadau tai. |
|
Gohebiaeth: Diwyigio Etholiadol y Senedd - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (15 Mai 2020) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru (19 Mai 2020) (1 Mehefin 2020) Dogfennau ategol: |
||
Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Mai 2020) Dogfennau ategol: |
||
(13.35 - 15.00) |
Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru; Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-13-20
Papur 1 – Llywodraeth Cymru Andrew Slade –
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Sioned Evans –
Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru Duncan Hamer –
Dirprwy Gyfarwyddwr Busnes, Llywodraeth Cymru Emma Watkins –
Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd Andrew Slade, Sioned Evans, Duncan Hamer ac
Emma Watkins eu holi gan yr Aelodau fel rhan o'u hymchwiliad i Gymorth Ariannol
Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau a chanolbwyntiwyd yn benodol ar effaith
economaidd Covid-19. 3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol
i'r Pwyllgor am nifer o bwyntiau gweithredu. 3.3 Dywedodd y Cadeirydd wrth y tystion y byddai'n
ysgrifennu atynt gan ofyn y cwestiynau na chafodd eu gofyn yn ystod y cyfarfod. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 5, 6 a 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00 - 15.40) |
Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a
chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi barn y
Pwyllgor. |
|
(15.40 - 16.00) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol PAC(5)-13-20 Papur
2 – Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol - Trosolwg o ymateb llywodraeth
y DU i bandemig COVID-19 (Mai 2020) Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Yn ystod yr wythnos yn
dechrau ar 15 Mehefin 2020, bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin yn trafod
Trosolwg diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o ymateb Llywodraeth y DU i
bandemig COVID-19. Gwahoddwyd y Pwyllgor i gyflwyno unrhyw sylwadau yn y
cyswllt hwn. 6.1 Nododd yr Aelodau’r
Adroddiad a’i drafod, a bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu i roi sylwadau erbyn i’r
mater gael ei drafod yn eu cyfarfod. |
|
(16.00 - 16.15) |
Effeithlonrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-13-20
Papur 2 – adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Yn amodol ar un ychwanegiad bach, cytunwyd ar yr
adroddiad a bydd trefniadau i’w gyhoeddi ym mis Mehefin 2020. |