Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/06/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(13.30 - 13.35)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ymateb i Lywodraeth Cymru ynghylch addasiadau tai.

 

2a

Gohebiaeth: Diwyigio Etholiadol y Senedd - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (15 Mai 2020)

Dogfennau ategol:

2b

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru (19 Mai 2020) (1 Mehefin 2020)

Dogfennau ategol:

2c

Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Mai 2020)

Dogfennau ategol:

(13.35 - 15.00)

3.

Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru;

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-13-20 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Sioned Evans – Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer – Dirprwy Gyfarwyddwr Busnes, Llywodraeth Cymru

Emma Watkins – Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd Andrew Slade, Sioned Evans, Duncan Hamer ac Emma Watkins eu holi gan yr Aelodau fel rhan o'u hymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau a chanolbwyntiwyd yn benodol ar effaith economaidd Covid-19.

3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am nifer o bwyntiau gweithredu.

3.3 Dywedodd y Cadeirydd wrth y tystion y byddai'n ysgrifennu atynt gan ofyn y cwestiynau na chafodd eu gofyn yn ystod y cyfarfod.

 

(15.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.00 - 15.40)

5.

Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi barn y Pwyllgor.

 

(15.40 - 16.00)

6.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

PAC(5)-13-20 Papur 2 – Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol - Trosolwg o ymateb llywodraeth y DU i bandemig COVID-19 (Mai 2020)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 15 Mehefin 2020, bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin yn trafod Trosolwg diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o ymateb Llywodraeth y DU i bandemig COVID-19. Gwahoddwyd y Pwyllgor i gyflwyno unrhyw sylwadau yn y cyswllt hwn.

6.1 Nododd yr Aelodau’r Adroddiad a’i drafod, a bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu i roi sylwadau erbyn i’r mater gael ei drafod yn eu cyfarfod.

 

(16.00 - 16.15)

7.

Effeithlonrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-13-20 Papur 2 – adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Yn amodol ar un ychwanegiad bach, cytunwyd ar yr adroddiad a bydd trefniadau i’w gyhoeddi ym mis Mehefin 2020.