Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

·       O ran llifogydd arfordirol, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ddiweddariad ar ei hamserlen ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol a rhoi gwybod i Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am y pecyn cymorth arfordirol i gyd-fynd â'r Strategaeth newydd ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol o safbwynt ad-alinio.

·       O ran yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru ar arferion a gweithdrefnau gwaith, teimlai'r Aelodau fod yr ymateb yn gadarnhaol ond y byddai angen monitro agos i sicrhau bod ymatebion Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor yn rhoi esboniadau llawn yn gyson ynghylch pam y cafodd argymhelliad ei dderbyn ai peidio. Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol gyda barn y Pwyllgor.

 

 

2.1

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (20 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (21 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.3

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

2.4

Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (24 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.5

Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth ychwanegol gan BIP Prifysgol Caerdydd a'r Fro (30 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.6

Craffu ar Gyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (29 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.15)

3.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn Dystiolaeth 4

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-32-17 Papur 1 - Papur gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol

 

Y Cynghorydd Mark Child - Cadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol

Rachel Evans - Arweinydd Cefnogi Pobl, Awdurdod Cydgysylltu Dinas a Sir Abertawe

Ian Oliver – Prif Swyddog Comisiynu, Castell-nedd Port Talbot, ac Arweinydd Rhaglen Cefnogi Pobl Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Castell-nedd Port Talbot

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Mark Child, Cadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Western Bay a Rachel Evans, Arweinydd Cefnogi Pobl, Awdurdod Cydlynu Dinas a Sir Abertawe fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

 

(15.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 6, 7 ac 8

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.15 - 15.30)

5.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.30 - 15.45)

6.

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-32-17 Papur 2 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru (1 Rhagfyr 2017)

PAC(5)-32-17 Papur 3 - Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (10 Tachwedd 2017)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau y diweddariad ysgrifenedig a chytunwyd i ymgymryd ag ymchwiliad yn ystod tymor yr haf 2018.

 

(15.45 - 16.00)

7.

Caffael Cyhoeddus yng Nghymru: Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-32-17 Papur 4 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru (6 Tachwedd 2017)

PAC(5)-32-17 Papur 5 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd. Roedd yr Aelodau eisoes wedi cytuno i ymgymryd ag ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad cynharach ar Gaffael Cyhoeddus - Adolygiad o'r Cefndir ar 23 Hydref.

7.2 Nododd yr aelodau y bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu trefnu ar gyfer tymor y  gwanwyn 2018.

 

(16.00 - 16.15)

8.

Yr Heriau Llywodraethu yn sgil gwasanaethau anuniongyrchol a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru: Diweddariad Llafar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-32-17 Papur 6- Papur Trafod: Yr Heriau Llywodraethu sy’n cael eu Peri gan Wasanaethau a Ddarperir yn Anuniongyrchol, ac a Ariennir gan y Cyhoedd yng Nghymru (Chwefror 2017)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol ddiweddariad llafar ar ei bapur trafod a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017 ac a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2017.

8.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn ceisio diweddariad ar y cynnydd a wnaed o safbwynt y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a chwmnïau hyd braich.