Archwiliad o Berthnasoedd Cytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ag RKC Associates Ltd a’i Berchennog

Archwiliad o Berthnasoedd Cytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ag RKC Associates Ltd a’i Berchennog

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2017 ac roedd ei gasgliadau’n ymwneud â gwaith caffael a recriwtio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Nid aeth yr Archwilydd Cyffredinol ati i asesu ansawdd y gwaith a wnaed gan RKC Associates Ltd o dan y contractau a ddyfarnwyd gan y Bwrdd Iechyd.

 

Paratowyd yr adroddiad yn unol â Pharagraff 19 yn Atodlen 18 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n nodi y caiff yr Archwilydd Cyffredinol baratoi adroddiad ar fater os yw’n credu y byddai o fudd i’r cyhoedd wybod amdano.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar 25 Medi 2017 a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Hydref 2017, a chafwyd diweddariad monitro gan y Bwrdd Iechyd ar weithredu’r camau a nodwyd o ganlyniad i’r Adroddiad. Mae’r camau i gyd wedi’u gweithredu ac ym mis Chwefror 2019, roedd y Pwyllgor yn fodlon nad oeddent am dderbyn unrhyw ddiweddariadau pellach ar y mater.

 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2017

Dogfennau