Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC a Rhianon Passmore AC. Roedd Mike Hedges AC yn bresennol fel dirprwy.

 

(13.45 - 13.50)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Speak my language: Overcoming language and communication barriers in public services: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (10 Gorffennaf 2018)

Dogfennau ategol:

2.3

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (10 Gorffennaf 2018)

Dogfennau ategol:

2.4

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (12 Gorffennaf 2018)

Dogfennau ategol:

(13.50 - 14.50)

3.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: sesiwn dystiolaeth 4

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-21-18 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG, Llywodraeth Cymru

Steve Elliot - Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr y GIG, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr y GIG; a Steve Elliot, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

3.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon gwybodaeth ychwanegol am nifer o faterion a godwyd.

 

(15.00 - 15.45)

4.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: sesiwn dystiolaeth 4

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-21-18 Papur 2 – Llywodraeth Cymru

PAC(5)-21-18 Papur 3 – Gohebiaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Andrew Griffiths - Prif Weithredwr, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr y GIG, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru; ac Andrew Griffiths, Prif Weithredwr, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.

4.2 Cytunodd Dr Goodall ac Andrew Griffiths i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer o bwyntiau a godwyd.

 

(15.45 - 16.45)

5.

Sesiwn ffarwél: Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-21-18 Papur 4 – Archwilydd Cyffredinol Cymru: Myfyrdodau wrth ffarwelio

 

Huw Vaughan Thomas CBE – Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn ffarwél gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn iddo ymddeol ar 20 Gorffennaf 2018.

5.2 Nododd Cadeirydd y Pwyllgor ei ddiolch i Huw am yr holl gefnogaeth a chyngor a roddodd i holl Gadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod ei gyfnod fel Archwilydd Cyffredinol, a dymunodd ymddeoliad hir iddo yn llawn hapusrwydd ac iechyd. Dywedodd wrth yr Aelodau ei fod yn gwneud datganiad llawn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Gorffennaf ond gan mai hwn oedd eitem gyhoeddus olaf Huw yn y Pwyllgor, roedd am nodi ei ddiolch ar y cofnod.

 

(16.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 7 ac 8 o'r cyfarfod ar 17 Medi 2018 ac Eitemau 1 a 2 o'r cyfarfod ar 24 Medi 2018

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.45 - 17.00)

7.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.

 

(17.00 - 17.15)

8.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.