Siaradwch fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus

Siaradwch fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad, “Siaradwch fy iaith”, ym mis Ebrill 2018.

Mae’r adroddiad, ‘Siaradwch fy iaith’, yn crynhoi’r ddeddfwriaeth a’r polisïau perthnasol, ac yn ystyried sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl sy’n wynebu rhwystrau o ran iaith a chyfathrebu. Mae’r adroddiad yn edrych yn benodol ar gynghorau a gwasanaethau iechyd. Mae’n canolbwyntio ar wasanaethau dehongli a chyfieithu i bobl sy’n fyddar ac sy’n defnyddio iaith arwyddion a phobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel prif iaith. 

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o heriau o ran darparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi datblygu rhestr wirio o faterion i’w hystyried wrth gynllunio sut i ddiwallu anghenion pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg. Mae’r rhestr wirio yn ymdrin â phum maes:

  • deall anghenion cyfathrebu’r boblogaeth leol;
  • polisi a gweithdrefnau;
  • canfod gwasanaethau dehongli a chyfieithu;
  • hyfforddiant i staff; a
  • darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai cyrff cyhoeddus adolygu’r ffyrdd y maent yn sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bobl sy’n wynebu rhwystrau o ran iaith neu gyfathrebu drwy ddefnyddio’r rhestr wirio. Mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ehangu cwmpas y safonau perthnasol sy’n gymwys i’r GIG yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’n argymell hefyd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chyrff cyhoeddus, grwpiau cynrychioladol ac eraill i ystyried materion sy’n ymwneud ag argaeledd dehonglwyr yng Nghymru a gweithdrefnau sicrhau ansawdd a diogelu.

Ystyriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ganfyddiadau’r adroddiad hwn ym mis Gorffennaf 2018.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/06/2018

Dogfennau