Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 11/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 2.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. · O ran
llifogydd arfordirol, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn
gofyn am ddiweddariad ar ei hamserlen ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl
Arfordirol a rhoi gwybod i Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Materion Gwledig am y pecyn cymorth arfordirol i gyd-fynd â'r Strategaeth
newydd ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol o
safbwynt ad-alinio. ·
O ran yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru
ar arferion a gweithdrefnau gwaith, teimlai'r Aelodau fod yr ymateb yn
gadarnhaol ond y byddai angen monitro agos i sicrhau bod ymatebion Llywodraeth
Cymru i argymhellion y Pwyllgor yn rhoi esboniadau llawn yn gyson ynghylch pam
y cafodd argymhelliad ei dderbyn ai peidio. Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i'r Ysgrifennydd
Parhaol gyda barn y Pwyllgor. |
|
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (20 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (21 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (24 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth ychwanegol gan BIP Prifysgol Caerdydd a'r Fro (30 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (29 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 15.15) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn Dystiolaeth 4 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-32-17
Papur 1 - Papur gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol Y
Cynghorydd Mark Child - Cadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol Rachel Evans - Arweinydd Cefnogi Pobl, Awdurdod
Cydgysylltu Dinas a Sir Abertawe Ian Oliver – Prif Swyddog Comisiynu, Castell-nedd Port Talbot, ac Arweinydd
Rhaglen Cefnogi Pobl Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Castell-nedd Port
Talbot Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Mark Child,
Cadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Western Bay a Rachel Evans,
Arweinydd Cefnogi Pobl, Awdurdod Cydlynu Dinas a Sir Abertawe fel rhan o'i
ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. |
|
(15.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5, 6, 7 ac 8 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.15 - 15.30) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15.30 - 15.45) |
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-32-17
Papur 2 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru (1 Rhagfyr 2017) PAC(5)-32-17
Papur 3 - Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (10
Tachwedd 2017) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd yr Aelodau y diweddariad ysgrifenedig a chytunwyd i ymgymryd ag
ymchwiliad yn ystod tymor yr haf 2018. |
|
(15.45 - 16.00) |
Caffael Cyhoeddus yng Nghymru: Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru: Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-32-17
Papur 4 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar
Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru (6 Tachwedd 2017) PAC(5)-32-17
Papur 5 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y Gwasanaeth Caffael
Cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol
ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd. Roedd yr
Aelodau eisoes wedi cytuno i ymgymryd ag ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus yn
dilyn cyhoeddi ei adroddiad cynharach ar Gaffael Cyhoeddus - Adolygiad o'r
Cefndir ar 23 Hydref. 7.2 Nododd yr aelodau y bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu trefnu ar
gyfer tymor y gwanwyn 2018. |
|
(16.00 - 16.15) |
Yr Heriau Llywodraethu yn sgil gwasanaethau anuniongyrchol a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru: Diweddariad Llafar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-32-17
Papur 6- Papur Trafod: Yr Heriau Llywodraethu sy’n cael eu Peri gan Wasanaethau
a Ddarperir yn Anuniongyrchol, ac a Ariennir gan y Cyhoedd yng Nghymru (Chwefror
2017) Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol ddiweddariad llafar ar ei bapur
trafod a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017 ac a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod
ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2017. 8.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd
Parhaol yn ceisio diweddariad ar y cynnydd a wnaed o safbwynt y berthynas rhwng
Llywodraeth Cymru a chwmnïau hyd braich. |