Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

10.00-10.05

2.

Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol i’w sifftio ac sydd bellach yn destun gwaith craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

2.1

SL(5)656 - Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-34-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

2.2

SL(5)657 - Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 5 – Rheoliadau

CLA(5)-34-20 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

10.05-10.10

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 a 21.3

3.1

SL(5)655 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 7 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 8 – Rheoliadau

CLA(5)-34-20 – Papur 9 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(5)659 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 10 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 11 – Gorchymyn

CLA(5)-34-20 – Papur 12 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-34-20 – Papur 13 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 11 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.3

SL(5)660 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 14 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 15 – Rheoliadau

CLA(5)-34-20 – Papur 16 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-34-20Papur 17 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 13 Tachwedd 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 18 – Datganiad ysgrifenedig, 12 Tachwedd 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

10.10-10.15

4.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

4.1

SL(5)654 - Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 19 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 20 – Rheoliadau

CLA(5)-34-20 – Papur 21 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

 

10.15-10.20

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(5)648 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 22 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 23 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

5.2

SL(5)649 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 24 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 25 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

5.3

SL(5)653 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 26 – Adroddiad

CLA(5)-34-20 – Papur 27 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

10.20-10.25

6.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

6.1

WS-30C(5)204 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 28 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-34-20 – Papur 29 - Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwebaeth.

 

6.2

WS-30C(5)205 - Rheoliadau Anifeiliaid, Iechyd Anifeiliaid Dyfrol, Rhywogaethau Estron Ymledol, Deunydd a Hadau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 30 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-34-20 – Papur 31 - Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwebaeth.

 

10.25-10.30

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Bil Pysgodfeydd y DU

CLA(5)-34-20 – Papur 32 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 17 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

7.2

Llythyr gan y Prif Weinidog: Etholiad y Senedd yn 2021 ac adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau

CLA(5)-34-20 – Papur 33 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 17 Tachwedd 2020

CLA(5)-34-20 – Papur 34 – Llythyr at y Prif Weinidog, 12 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

7.3

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Cynllun Taliad Sylfaenol a Ffframwaith Deddfwriaethol o ran Cymorth Gwledig o 2021 ymlaen

CLA(5)-34-20 – Papur 35 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 18 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

10.30

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10.30-10.35

9.

Gwybodaeth am drefniadau ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2021

CLA(5)-34-20 – Papur 36 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor friff ar drefniadau ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2021.

 

10.35-10.45

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-34-20 – Papur 37 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y drafft diwygiedig o’i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Marchnad Fewnol y DU, a chytunodd i gwblhau’r newidiadau y tu allan i’r Pwyllgor cyn ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.

 

10.45-11.15

11.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-34-30 – Papur 38 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddrafft cyntaf ei adroddiad ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 

11.15-11.25

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol - trafod materion allweddol

CLA(5)-34-20 – Papur 39 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-34-20 – Papur 40 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Gwasanaethau Ariannol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.