Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/07/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-20-18
– Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag
adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)233 - Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018 |
|
SL(5)235 - Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018 |
|
SL(5)236 - Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018 Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Concordat rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru CLA(5)-20-18
– Papur 2 – Datganiad ysgrifenedig gan
Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr
Aelodau y datganiad ysgrifenedig ar y Concordat rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder
a Llywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am
ragor o wybodaeth ynghylch paragraff 20 y concordat. |
|
Gohebiaeth mewn perthynas â Bil yr UE (Ymadael) a'r Cytundeb Rhynglywodraethol CLA(5)-20-18
– Papur 3 – Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid,
5 Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Blaenraglen waith CLA(5)-20-18 - Papur 4 - Blaenraglen waith Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ei flaenraglen waith. Nododd y Pwyllgor fod angen i'r rhaglen
ddarparu ar gyfer deddfwriaeth yn ymwneud â Brexit yn y dyfodol ac unrhyw
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol perthnasol, sifftio rheoliadau negyddol
arfaethedig a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018, craffu ar Filiau'r
Cynulliad, a chraffu ar reoliadau a gorchmynion nad ydynt yn gysylltiedig â
Brexit. Serch hynny, mynegwyd siom nad
oedd gan y Pwyllgor y gallu eto i fynd ar drywydd cynigion ar gyfer Bil
Comisiynwyr a byddai'n ailystyried ymhellach yn yr hydref. |
|
SL(5)234 - Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018 |