Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ei
ferch ar hyn o bryd yn astudio'r Gymraeg yn y Brifysgol a gall addysgu Cymraeg
yn y dyfodol. Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
aros am
farn y deisebydd ar yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau
Rhyngwladol; ac ·
ysgrifennu'n
ôl at y Gweinidog i ofyn a oes digon o gapasiti addysgu i gefnogi cynnydd yn y
galw am wersi Cymraeg. |
|
P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-875 Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru i ofyn eu barn ar y pwyntiau a nodwyd yn y ddeiseb a'r
effaith bosibl yn sgil capio neu gyfyngu ar gynnydd mewn Treth Gyngor. |
|
P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu'n
ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am y diweddaraf am
y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ei datganiad o Argyfwng
Hinsawdd ar 30 Ebrill, a'r cyngor diweddaraf a gyhoeddwyd gan Bwyllgor y DU ar
Newid yn yr Hinsawdd ddechrau mis Mai; ac ·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Busnes i ofyn am y ddeiseb i gael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth
Leol a gyhoeddwyd ar 4 Ebrill, a chytunodd i rannu sylwadau diweddaraf y
deisebwyr gyda'r Dirprwy Weinidog i ofyn am ei barn ar y cynnwys, a gofyn am
fwy o fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru i ddatrys materion yn ymwneud â
mynediad i ddyfroedd mewndirol yn dilyn ei datganiad ysgrifenedig. |
|
P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunwyd i ysgrifennu at
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am ei barn ar y pwyntiau
a nodwyd. |
|
P-05-867 Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau
a ganlyn: ·
ysgrifennu
at Gyngor Ceredigion i ofyn pa gyfraniad y gallai ei wneud i helpu i amddiffyn
y murlun; ·
ysgrifennu
at Gyngor Cymuned Llanrhystud i ofyn am wybodaeth am y gwaith y bydd yn ei
arwain i benderfynu ar gynllun rheoli hirdymor, a'r amserlenni tebygol ar gyfer
hyn; a ·
gofyn am y
diweddaraf gan Lywodraeth Cymru maes o law. |
|
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am
fanylion y camau perthnasol a gymerir gan Lywodraeth Cymru ers argymhelliad y
Comisiynydd Plant y dylid adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gynnig y dylid ymgorffori diogelwch disgyblion sy'n
teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn adolygiad o'r fath. |
|
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at
Cymwysterau Cymru a'r Gweinidog Addysg i ofyn am fwy o wybodaeth am y camau
sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg a
Saesneg o'r dechrau o dan y cwricwlwm newydd. |
|
P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb,
gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu'r camau y gofynnwyd amdanynt yn
y ddeiseb o fis Medi 2020. Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am godi'r mater
hwn a llongyfarchodd hi ar lwyddiant y ddeiseb. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn iddi ailystyried
a ellid cyflwyno'r newid hwn o fis Medi 2019. |
|
P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog Addysg i gwestiynu pa mor effeithiol y bydd yr erthygl yng
nghylchlythyr Dysg wrth atgoffa arweinwyr ysgolion i ailystyried asesiadau risg
yn ymwneud â dosbarthiadau Dylunio a Thechnoleg, a gofyn pam na ellir cynhyrchu
canllawiau mewn perthynas â'r pwnc hwn. |
|
P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wedi adfer
y grant ar gyfer y gwasanaethau hyn yn 2018-19 a 2019-20, a gwaith craffu y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys
Grant Gwella Addysg. |
|
P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am bapur yn
amlinellu'r gwaith craffu a roddwyd ar fater apeliadau yn erbyn cau ysgolion ar
yr adeg y pasiwyd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ynghyd
ag opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen ag ystyried rhinweddau mecanwaith apelio
ymhellach. |
|
P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddiseb ynghyd â deiseb P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen
orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y
Gweinidog Addysg i ofyn am y canlynol: ·
sefydlu
datrysiad dros dro, naill ai drwy'r cwricwlwm ABCh cyfredol neu Fagloriaeth
Cymru, i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021;
ac ·
ystyried
ffyrdd eraill y gall pobl ifanc gael gafael ar wybodaeth mewn perthynas ag
addysg wleidyddol y tu allan i gwricwlwm yr ysgol, er enghraifft trwy leoliadau
gwaith ieuenctid. |
|
P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddiseb ynghyd â deiseb P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd
yn Orfodol ar y Cwricwlwm, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg
i ofyn am y canlynol:
|
|
P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a chytunodd i
dderbyn y cynnig o gael diweddariad ar gynnydd a gofyn amdano, a diweddariad
gan y deisebwyr ac Anabledd Cymru, ar ddechrau tymor yr hydref. |
|
P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus' Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at elusennau
digartrefedd i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac effaith a
nifer yr achosion o bensaernïaeth elyniaethus i atal cysgu allan yng Nghymru. |
|
P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa ddarpariaeth sydd ar
gyfer plant ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu, mewn achosion lle nad cymorth
iechyd meddwl yw'r ateb mwyaf priodol. |
|
P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau
a ganlyn: ·
ysgrifennu'n
ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i: o
dderbyn y
cynnig o ddiweddariad pellach ar y gwaith sydd ar y gweill; o
gofyn
amdano erbyn dechrau tymor yr hydref; a o
rhannu
pryderon y deisebwyr nad yw'n ymddangos bod y gweithgor yn cynnwys
cynrychiolaeth gan blant a phobl ifanc; a ·
thrafod a
yw'n bosibl ymgysylltu â Senedd Ieuenctid y Cynulliad ar y materion a nodwyd. |
|
P-05-846 Achub ein Hysbyty Tywysog Philip Llanelli Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o gofio nad yw'n glir ar hyn o bryd
bod unrhyw fygythiad sylweddol i ddarpariaeth gwasanaeth yn Ysbyty Tywysog
Phillip neu yn Llanelli o'r wybodaeth a ddaeth i law, cytunodd i gysylltu â'r
deisebwyr i ofyn: ·
a fyddai'n
well ganddynt i'r Pwyllgor gadw golwg ar y newidiadau sy'n effeithio ar Ysbyty
Tywysog Philip ac adolygu'r ddeiseb tua diwedd y flwyddyn; neu ·
cau'r
ddeiseb ar hyn o bryd, er mwyn galluogi deiseb yn y dyfodol petai'r sefyllfa
hon yn newid. |
|
P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy
Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am: ·
ddiweddariad
ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru; ·
ei
myfyrdodau yn dilyn y ddadl a gynhaliwyd ar 3 Ebrill a pha newidiadau y gallai
eu hystyried yn dilyn y bleidlais o blaid cynnig deddfwriaethol Bethan Sayed
AC; a ·
rhannu
copi o'r sylwadau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a gofyn am ei
hymateb i'r pwyntiau a nodwyd, yn enwedig y pryderon am Ganolfannau Cyfeirio
Camdriniaeth Rywiol. |
|
P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at: ·
Weinidog
yr Amgylchedd i ofyn iddi ymgorffori'r mater hwn yng ngwaith Llywodraeth Cymru
yn dilyn ei datganiad diweddar o argyfwng newid yn yr hinsawdd; ac ·
y
Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddiolch
iddynt am y wybodaeth a ddarparwyd, ond gofyn a yw hyn yn golygu y byddent yn
disgwyl i bob bwydlen ddyddiol mewn lleoliadau ysgol ac ysbyty gynnwys opsiynau
bwyd llysieuol a fegan. |