Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-855 Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am i'r deisebwyr ymateb
i'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd
camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
·
aros am
ganlyniad yr ymgynghoriad cyn ystyried pa gamau pellach y gall fod eu hangen o
ran y ddeiseb, gan gynnwys dadl yn y Cyfarfod Llawn. |
|
P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu am y ddeiseb yng
nghyd-destun eu gwaith parhaus ar y pwnc hwn yn dilyn yr adroddiad Cadernid
Meddwl, a gofyn am unrhyw sylwadau sydd gan y Pwyllgor mewn perthynas â rôl a
chwmpas Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion; a ·
gofyn am
bapur ymchwil ar y gofynion presennol mewn perthynas â chynlluniau iechyd
meddwl ar gyfer plant ac effeithiolrwydd y cynlluniau hynny. |
|
P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu
llythyr at y Gweinidog Addysg ynglŷn â'r ddeiseb hon a P-05-861 yn gofyn a yw'n bosibl
dechrau gweithredu gwelliannau i'r ffordd y dysgir sgiliau bywyd i ddisgyblion
mewn ysgolion cyn i'r cwricwlwm newydd gael ei weithredu yn llawn yn 2022, a
gofyn sut, yng nghyd-destun rhoi hyblygrwydd i weithwyr proffesiynol, y mae'r
Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod disgyblion yn cael hyfforddiant digonol o
ran sgiliau bywyd yn ystod eu haddysg; ac ·
aros am
i'r deisebwyr ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu
a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Addysg ynglŷn â'r ddeiseb hon a P-05-860 yn gofyn iddi ystyried
gweithredu cyflymach i sicrhau bod gwelliannau i’r addysg wleidyddol a
ddarperir mewn ysgolion ar waith cyn y gweithredir y cynnig i roi hawl i bobl
16 a 17 oed bleidleisio yn etholiad y Cynulliad yn 2021. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a
chytunodd i gadw golwg ar y mater hwn tan y bydd y gwaith asesu stoc ar ben cyn
ystyried unrhyw gamau pellach. |
|
P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu
at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd yn gofyn iddo ystyried
defnyddio'r cyllid a fyddai wedi mynd i Wylfa Newydd i gefnogi'r gwaith o
ddatblygu ymhellach gynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. |
|
P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a chan Gomisiwn y Gymraeg a
chytunodd i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru a'r Gweinidog Addysg i rannu'r
dadansoddiad a'r wybodaeth a gafwyd gan Gomisiwn y Gymraeg, a gofyn iddynt
ymateb i'r atebion penodol a gynigiwyd. |
|
P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ fel yr oedd ar y pryd a chytunodd i ysgrifennu at
Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn dilyn ei ddatganiad dyddiedig
18 Ionawr, a gofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y
ddarpariaeth yn Llangenni pan fydd modd iddo wneud hynny ac, os bydd y pentref
yn cael ei gwmpasu gan y rhaglen, i ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer ei
gysylltu â band eang cyflym. |
|
P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni penderfyniadau
terfynol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys i wrthod y cynnig. |
|
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Vertex a'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig, a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn
gofyn iddo ystyried a oes ffordd briodol o sicrhau bod cleifion a fyddai’n elwa
arno yn cael mynediad dros dro at Orkambi, o gofio bod trafodaethau wedi
ailddechrau ynghylch argaeledd tymor hir y feddyginiaeth gan y GIG. |
|
P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru a'r deisebwyr a chytunodd ar y
camau a ganlyn:
|
|
P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ fel yr oedd ar y pryd a chan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a
chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i groesawu'r ffaith bod camau y
cyfeiriodd y Gweinidog blaenorol atynt yn cael eu hystyried, yn enwedig o ran
gweithredu cynllun peilot, a bydd yn gofyn am ddiweddariad am yr amserlenni ar
gyfer ystyriaeth neu waith pellach yn y maes hwn, gan fod yr ymgynghoriad ar y
Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol bellach wedi'i gwblhau. |
|
P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r deisebydd, a chyn ystyried pa gamau pellach y
gallai eu cymryd, cytunodd y bydd yn derbyn cynnig y deisebydd i ddarparu
adroddiad pellach ar y rheswm y mae angen i'r gyfraith newid yn y maes hwn. |