Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 160(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 03/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau1-7
a 9-11. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 5 gan Weinidog yr
Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 3. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.18 Gofynnwyd cwestiynau 2-8.
Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni chafwyd unrhyw
Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
chyflwynwyd unrhyw Cwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.09 Gwnaeth Mark Isherwood
ddatganiad ar - Mis ymwybyddiaeth Parlys yr Ymennydd a'r angen i Gymru gael
cofrestr Parlys yr Ymennydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.11 NDM6822 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones
(Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle
Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig). NDM6823 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Neil Hamilton
(Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog NDM6817
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad
Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gweithredu Deddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 2018’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2018. 2. Yn cymeradwyo’r
cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 21 a 27, a chyflwyno Rheolau Sefydlog newydd
30B a 30C, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.11 NDM6817 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad
Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gweithredu Deddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 2018’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2018. 2.Yn cymeradwyo’r cynnig
i adolygu Rheolau Sefydlog 21 a 27, a chyflwyno Rheolau Sefydlog newydd 30B a
30C, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc NDM6814
David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Ddeisebau ar Deiseb P-04-682, 'Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn
Plant a Phobl Ifanc', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2018. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.19 NDM6814 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Ddeisebau ar Deiseb P-04-682, 'Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes
Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2018 Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Colli Babanoad NDM6801
Lynne
Neagle (Torfaen) Cefnogwyr Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y bu
263 o fabanod farw neu'n farw-anedig yng Nghymru yn 2016 ac, yn aml, na all
teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban gael mynediad priodol at
wasanaethau neu gymorth. 2. Yn croesawu wythnos
ymwybyddiaeth colli babanod, a drefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau
ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9 a 15 Hydref 2018 i roi cyfle i godi
ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal profedigaeth rhagorol i bob rhiant ar
ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban. 3. Yn cydnabod bod
wythnos ymwybyddiaeth colli babanod hefyd yn rhoi cyfle pwysig i rieni mewn
profedigaeth, a'u teuluoedd a'u ffrindiau, uno a choffáu bywydau eu babanod. 4. Yn cydnabod y dylai
pob rhiant mewn profedigaeth gael yr un safon uchel o ofal pan fydd baban yn
marw, ac er na all gofal da ddileu poen a galar rhieni, gall helpu rhieni
drwy'r amser trychinebus hwn. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r gofal y mae rhieni yn ei dderbyn ar
ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban drwy: a) ymrwymo i ddarparu
gwell gofal profedigaeth sydd ar gael i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod
beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban, a gwella'r gofal hwnnw; b) mabwysiadu set
graidd o safonau ar gyfer gofal profedigaeth sydd wedi'u defnyddio i ategu'r
Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yn ardaloedd eraill y DU; c) gweithio gyda GIG
Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn
profedigaeth yn cael hyfforddiant gofal profedigaeth. Y
Swyddfa Ystadegau Gwladol - Marwolaeth plant yng Nghymru a Lloegr yn 2018 (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.09 NDM6801 Lynne Neagle (Torfaen) Cefnogwyr Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y bu 263 o fabanod farw neu'n farw-anedig yng Nghymru yn 2016 ac,
yn aml, na all teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban gael mynediad
priodol at wasanaethau neu gymorth. 2.
Yn croesawu wythnos ymwybyddiaeth colli babanod, a drefnir gan gynghrair o fwy
na 60 o elusennau ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9 a 15 Hydref 2018 i roi
cyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal profedigaeth rhagorol i
bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban. 3.
Yn cydnabod bod wythnos ymwybyddiaeth colli babanod hefyd yn rhoi cyfle pwysig
i rieni mewn profedigaeth, a'u teuluoedd a'u ffrindiau, uno a choffáu bywydau
eu babanod. 4.
Yn cydnabod y dylai pob rhiant mewn profedigaeth gael yr un safon uchel o ofal
pan fydd baban yn marw, ac er na all gofal da ddileu poen a galar rhieni, gall
helpu rhieni drwy'r amser trychinebus hwn. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r gofal y mae rhieni yn ei
dderbyn ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban drwy: a)
ymrwymo i ddarparu gwell gofal profedigaeth sydd ar gael i bob rhiant ar ôl
colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban, a gwella'r gofal
hwnnw; b)
mabwysiadu set graidd o safonau ar gyfer gofal profedigaeth sydd wedi'u
defnyddio i ategu'r Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yn ardaloedd eraill
y DU; c)
gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy'n dod i gysylltiad â
rhieni mewn profedigaeth yn cael hyfforddiant gofal profedigaeth. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Pleidlais y Bobl NDM6816
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu y dylid
cynnal pleidlais y bobl drwy refferendwm y DU-gyfan ar delerau terfynol
ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn credu bod yn
rhaid parchu canlyniad refferendwm y DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb
Ewropeaidd. 2. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y
Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2 -
Gareth Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod mai
ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,
fel a fynegwyd mewn refferendwm a gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl. 2. Yn galw ar
wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau
pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn ddiweddar a rhoi'r gorau i geisio
tanseilio proses Brexit. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i
Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau. [Os
derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl
“credu” a rhoi yn ei le: bod yn rhaid cadw’r
opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y
DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb
Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r
bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6816 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu y dylid cynnal
pleidlais y bobl drwy refferendwm y DU-gyfan ar delerau terfynol ymadawiad y DU
â’r Undeb Ewropeaidd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm y
DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd. 2. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU
yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Gareth Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y
Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel a fynegwyd mewn refferendwm a
gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl. 2. Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn
gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn ddiweddar
a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad
sengl a'r undeb tollau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl “credu” a rhoi yn ei le: bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a
hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar
delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad
cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd
ymlaen. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Yn credu bod yn rhaid cadw’r opsiwn
o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn
gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd
ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl
benderfynu ar y ffordd ymlaen.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6815
Nick
Ramsay (Mynwy) Gweld pethau'n wahanol
– byw gyda cholli golwg yng Nghymru heddiw. Sut y gallwn ddileu’r
hyn sy’n rhwystro pobl ddall a rhannol ddall rhag cyfranogi'n gyfartal i
gymdeithas. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.51 NDM6815
Nick Ramsay (Mynwy) Gweld
pethau'n wahanol – byw gyda cholli golwg yng Nghymru heddiw. Sut
y gallwn ddileu’r hyn sy’n rhwystro pobl ddall a rhannol ddall rhag cyfranogi'n
gyfartal i gymdeithas. |