NDM6801 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ) - Colli Babanod
NDM6801
Lynne
Neagle (Torfaen)
David
Rees (Aberafan)
Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cefnogwyr
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y bu 263 o fabanod farw neu'n farw-anedig
yng Nghymru yn 2016 ac, yn aml, na all teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli
baban gael mynediad priodol at wasanaethau neu gymorth.
2. Yn croesawu wythnos ymwybyddiaeth colli babanod, a
drefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9
a 15 Hydref 2018 i roi cyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal
profedigaeth rhagorol i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu
ar ôl marwolaeth baban.
3. Yn cydnabod bod wythnos ymwybyddiaeth colli babanod
hefyd yn rhoi cyfle pwysig i rieni mewn profedigaeth, a'u teuluoedd a'u
ffrindiau, uno a choffáu bywydau eu babanod.
4. Yn cydnabod y dylai pob rhiant mewn profedigaeth gael
yr un safon uchel o ofal pan fydd baban yn marw, ac er na all gofal da ddileu
poen a galar rhieni, gall helpu rhieni drwy'r amser trychinebus hwn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r
gofal y mae rhieni yn ei dderbyn ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu
farwolaeth baban drwy:
a) ymrwymo i ddarparu gwell gofal profedigaeth sydd ar
gael i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth
baban, a gwella'r gofal hwnnw;
b) mabwysiadu set graidd o safonau ar gyfer gofal
profedigaeth sydd wedi'u defnyddio i ategu'r Llwybr Gofal Profedigaeth
Cenedlaethol yn ardaloedd eraill y DU;
c) gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod pob aelod o
staff sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn profedigaeth yn cael hyfforddiant
gofal profedigaeth.
Y
Swyddfa Ystadegau Gwladol - Marwolaeth plant yng Nghymru a Lloegr yn 2018 (Saesneg yn unig)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2021
Angen Penderfyniad: 3 Hyd 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Lynne Neagle AS