NDM6816 Dadl Plaid Cymru - Pleidlais y Bobl
NDM6816 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid cynnal pleidlais y bobl drwy refferendwm
y DU-gyfan ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm y
DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU
yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 -
Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y
Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel a fynegwyd mewn refferendwm a
gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl.
2. Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn
gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn
ddiweddar a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad
sengl a'r undeb tollau.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl “credu” a rhoi yn ei le:
bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a
hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar
delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad
cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd
ymlaen.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2021
Angen Penderfyniad: 3 Hyd 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS