Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Michael Kay 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(09:00-09:20)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau yn amodol ar y camau gweithredu canlynol:

 

·       Cofnodion y cyfarfod blaenorol (15 Gorffennaf 2014): Gofynnodd Sandy Mewies i'w datganiad fel cymrawd o Brifysgol Glyndŵr gael ei nodi.

·       Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (24 Gorffennaf 2014): Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried agweddau ar y mater hwn yn gynnar yn 2015. 

·       Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol mewn Llywodraeth Leol:  Llythyr gan June Milligan (22 Gorffennaf 2014): Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus yn gofyn am ei safbwynt ar bartneriaethau cydweithredol, ad-drefnu awdurdodau lleol a chostau cysylltiedig.

·       Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Peter Higson (29 Gorffennaf 2014): Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Is-gadeirydd yn BIPBC yn gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch gwelliannau sy'n ymwneud â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Byddai trefniadau llywodraethu'n cael eu hystyried yn ddiweddarach yn y tymor a BIPBC yn cael ei ailystyried yn 2015.

·       Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan Syr Derek Jones (11 Awst 2014): Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn a oes modd rhannu gyda'r Pwyllgor unrhyw ystyriaeth bellach o'r materion sy'n codi o achos AWEMA gan fod yr achosion troseddol bellach wedi dod i ben.

 

 

 

2.1

Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (24 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:

2.2

Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol mewn Llywodraeth Leol: Llythyr gan June Milligan (22 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:

2.3

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Peter Higson (29 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:

2.4

Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (4 Awst 2014)

Dogfennau ategol:

2.5

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan Syr Derek Jones (11 Awst 2014)

Dogfennau ategol:

2.6

Cyllid addysg uwch: Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru at Mike Hedges AC (15 Awst 2014)

Dogfennau ategol:

2.7

Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (20 Awst 2014)

Dogfennau ategol:

(09:20-09:40)

3.

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

PAC(4)-22-14 (papur 1)

PAC(4)-22-14 (papur 2)

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at William Graham  fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes i rannu ymateb Llywodraeth Cymru a nodyn yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn cynorthwyo eu hymchwiliad. Bydd y llythyr yn pwysleisio pryderon y Pwyllgor ynglŷn â chyfran y bobl ifanc a ystyrir i fod yn NEET yn y grŵp oedran 19-24 oed ynghyd â phryderon ynghylch casglu a rhannu data. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Menter a Busnes pan fydd wedi cwblhau'i waith a bydd y Pwyllgor wedyn yn ystyried ymhellach a yw'n dymuno ymgymryd ag unrhyw waith ei hun ar y mater hwn.

 

 

4.

Y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

PAC(4)-22-14 (papur 3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Alun Ffred Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, gyda chopi'n cael ei anfon at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, gan ofyn bod y pwyntiau a godwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol sy'n ymwneud â'i bwerau a chyfrifoldebau yn cael eu hystyried wrth i'r Pwyllgor graffu ar y Bil.

 

(10:00-10:20)

5.

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-22-14 (papur 4)

PAC(4)-22-14 (papur 5)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunwyd y dylid ceisio cael diweddariad yng ngwanwyn 2015. Erbyn hynny, dylai'r cytundeb newydd fod wedi cael ei ddyfarnu. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai'r Cadeirydd, yn y cyfamser, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi rannu'r wybodaeth y mae'n gallu gyda'r Pwyllgor ynglŷn â chwmpas, cynnwys, methodoleg ac amserlen adolygiad ARUP yn ogystal â'r ddogfen dendro ar gyfer y gwasanaeth awyr.

 

(10:20)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 7 ac Eitemau 1 a 2 y cyfarfod ar 22 Medi 2014

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:20-11:00)

7.

Glastir: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

7.1 Cyflwynodd staff Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar yr adroddiad ar Glastir. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan gynnwys ymateb Llywodraeth Cymru, pan ddaw i law.