Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

Ar 20 Mai 2014, cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith pellach ar yr adroddiad a ganlyn: 'Cwrdd â'r heriau ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru'. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ystyried pa waith cynllunio roedd awdurdodau lleol wedi'i wneud i gwrdd â'r heriau ariannol hyn, ac yn awyddus bod gwaith y Pwyllgor yn bwydo i mewn i waith craffu'r Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb.

Gwnaed y gwaith mewn dau gam.

Cam cyntaf – ystyried y trefniadau gwaith rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch y setliad llywodraeth leol, er mwyn sicrhau eu bod yn cydweithio i drafod a datrys eu safbwyntiau gwahanol o ran amseriad cael gwybodaeth am y setliad blynyddol, ac er mwyn sefydlu cyd-ddealltwriaeth o ddibenion y setliad a’r terfynau amser ar gyfer rhannu gwybodaeth.

 

Ail gam – herio arweinwyr llywodraeth leol ynghylch yr angen i wneud rhagor i fynd i’r afael â’r heriau ariannol ac ystyried a yw’r posibilrwydd o sicrhau arbedion pellach yn cael ei rwystro gan ddiffyg eglurder ynghylch ffiniau llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys ystyried yr adroddiad trosolwg cenedlaethol sydd ar y gweill gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n trafod ansawdd ac effeithiolrwydd trefniadau cynllunio ariannol awdurdodau lleol, ac agweddau ar adroddiad diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr astudiaeth gwella llywodraeth leol, sy’n ymdrin â threfniadau craffu.

 

Yn ystod ei gyfarfod ar 6 Hydref 2015, ystyriodd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru (14 Medi 2015) a nododd ei fod yn annhebygol y bydd yn ailedrych ar y mater cyn diwedd Tymor y Cynulliad hwn.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/05/2014

Dogfennau