Cyllido Addysg Uwch

Cyllido Addysg Uwch

Diben yr ymchwiliad oedd rhoi ystyriaeth i gyllido sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, effaith ariannol polisi grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru ar sefydliadau addysg uwch a myfyrwyr yng Nghymru, a gofyn i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru'n darparu gwerth am arian yn y maes hwn.

Ni ddaeth y polisi cyllido Addysg Uwch rhan-amser i rym tan 2014, ac felly canolbwyntiodd yr ymchwiliad hwn ar gyllido Addysg Uwch llawn amser.

Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid yn cynnwys, yn fras, dair ffrwd incwm ar gyfer cyllido sefydliadau addysg uwch, a rôl cyllid yn y dewisiadau a wneir gan fyfyrwyr:

 

  • Ymchwil – Pa mor effeithiol yw sefydliadau addysg uwch o ran sicrhau incwm ar gyfer gwaith ymchwil, gan gynnwys cyllid ar gyfer gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
  • Incwm a chymorth ar gyfer ffioedd dysgu - Pa effaith ariannol a gaiff y polisi ffioedd dysgu newydd, a gyflwynwyd yn 2012, sy'n caniatáu i sefydliadau addysg uwch godi hyd at £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr am gyrsiau addysg uwch, a beth yw goblygiadau ariannol grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru?
  • Cyfleoedd eraill am incwm, neu fygythiadau eraill i incwm - Pa mor bwysig i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yw'r ffrwd o incwm o ffioedd dysgu a geir gan fyfyrwyr sy'n hanu o'r tu allan i Gymru, gan gynnwys myfyrwyr tramor, a beth yw canlyniadau ariannol newidiadau eraill yn y farchnad addysg uwch, yn awr neu yn y dyfodol, gan gynnwys cyflwyno darparwyr preifat?
  • Dewisiadau myfyrwyr - Pa ystyriaethau ariannol sydd gan fyfyrwyr pan fyddant yn penderfynu a ydynt am fynd ymlaen i addysg uwch, a beth yw effaith grantiau ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru ar ddewis yr unigolyn?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau